Gogledd Cymru: Paratoi ar gyfer argyfyngau
Fel rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer argyfyngau ar draws y rhanbarth, mae partneriaid allweddol yn cydweithio i baratoi Cofrestr Risg Cymunedol Gogledd Cymru.
Mae'r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth ar yr argyfyngau mwyaf allai ddigwydd yn y rhanbarth ac yn cynnwys yr effaith ar bobl, cymunedau, yr amgylchedd a busnesau lleol. Mae'r risgiau hyn yn cael eu hadolygu yn rheolaidd ac maent yn cael eu rhestru ar y Gofrestr Risg ranbarthol.
Mae'r Gofrestr Risg yn cael ei llunio gan Fforwm Cydnerth Gogledd Cymru sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r prif asiantaethau sy'n ymwneud ag ymateb i argyfyngau - y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, sefydliadau iechyd a'r amgylchedd a'r cwmnïau gwasanaethau.
Y pwrpas cyffredinol ydi sicrhau bod cynrychiolwyr yn cydweithio i gyflawni lefel priodol o barodrwydd i ymateb i argyfyngau allai gael effaith sylweddol ar gymunedau Gogledd Cymru.
Gogledd Cymru: Paratoi ar gyfer argyfyngau (PDF, 4MB) (gwefan allanol)