Rheoli Anghenion Gofal Iechyd Disgyblion
Mae’r polisi rheoli anghenion gofal iechyd disgyblion yn bolisi statudol ar gyfer ysgolion i gefnogi disgyblion gydag anghenion gofal iechyd ac i sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl i’w addysg.
Mae polisi enghreifftiol wedi’i ddatblygu gan Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Sir Ddinbych gydag ysgolion a phartneriaid, a gall cyrff llywodraethu'r ysgolion ei fabwysiadu, neu mae’n rhaid iddynt gynhyrchu un eu hunain yn unol â Chanllaw Statudol Llywodraeth Cymru (gwefan allanol).
Polisi Enghreifftiol Anghenion Gofal Iechyd (MS Word, 112KB)