Gwneud cais arlein am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal

Beth sy'n digwydd i fy ngwybodaeth?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn casglu eich gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn berthnasol i’ch cais.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd arlein i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol.

  • Cyn i chi ddechrau

    Gallwch ond llenwi’r ffurflen hon os ydych yn gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal. Dim ond un cais y gellir ei wneud bob blwyddyn ysgol, fesul Blentyn sy'n Derbyn Gofal. Bydd ceisiadau ar gyfer disgyblion nad ydynt yn derbyn gofal yn cael eu diystyru.

    Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol un plentyn sy’n derbyn gofal ar y tro. Os hoffech wneud cais am grant ar gyfer mwy o blant, llenwch y ffurflen cynifer o weithiau ag sydd angen.

    Mae’n rhaid bod gennych gyfrif banc i dderbyn grant gwisg ysgol a’r grant offer ysgol.


  • Plentyn sy’n derbyn gofal

    Rhaid i’r plentyn sy’n derbyn gofal, sef y disgybl rydych yn gwneud cais amdano fod yng ngofal Cyngor Sir Ddinbych neu awdurdod lleol arall, ac unai:

    • yn byw gyda rhieni maeth
    • yn byw mewn cartref plant preswyl
    • yn byw mewn lleoliadau preswyl eraill fel ysgolion neu unedau diogel
    • yn byw gyda rhiant, perthynas arall neu unigolyn cysylltiedig ac yn destun gorchymyn gofal
  • Ydych chi’n gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal?