Mae Cronfeydd Ysgol y cyfeirir atynt weithiau fel cronfeydd ysgol breifat neu answyddogol yn gronfeydd ar wahân i'r rheiny a geir gan yr Awdurdod Lleol ac yn bodoli er budd y plant mewn ysgol. Maent wedi’u sefydlu o dan awdurdod Llywodraethwyr ysgol ac yn cynnwys arian wedi’i gasglu gan fyfyrwyr neu ddisgyblion ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu gan yr ysgol.
Canllawiau
Mae ein dogfen Canllawiau Cronfeydd Ysgol wedi’i datblygu i helpu’r rheiny sydd yn gyfrifol am weinyddu, rheoli a llywodraethu cronfeydd ysgol wirfoddol. Bydd yn helpu i sicrhau fod yr holl gronfeydd gwirfoddol wedi’u sefydlu ac yn cael eu gweithredu yn unol â’r holl ofynion statudol perthnasol ac yn cydymffurfio â’n Cynllun ar gyfer Ariannu Ysgolion.
Mae’r canllawiau wedi eu dylunio hefyd i roi fframwaith cadarn i ysgolion er mwyn gallu gweithredu eu cronfeydd ysgol ac i ddiogelu’r arian a godwyd ac i amddiffyn y staff sydd yn ymwneud â’r gwaith.
Tydi cronfeydd Cymdeithas Rhieni ac Athrawon neu ‘Gyfeillion o’ ddim wedi’u dosbarthu fel cronfeydd answyddogol ar gyfer dibenion y canllawiau hyn.
Canllawiau cronfa ysgol (PDF, 932KB)
Dogfennau Cysylltiedig
Mwy o Wybodaeth
Dylai rheoli cronfeydd ysgol fod yn eitem ar raglen Pwyllgor Ariannol Corff Llywodraethu, ac o fewn y broses mae gofyniad i’r holl ysgolion i wneud archwiliad o’u cronfeydd ysgol ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol.
Bydd ysgolion hefyd angen darparu eu harchwilydd o’r gronfa ysgol gyda chopi o’r canllawiau hyn cyn gwneud yr archwiliad. Mae angen anfon y dystysgrif gyda chanlyniad yr archwiliad atom governor.support@denbighshire.gov.uk