Oriel
Beth sy'n digwydd?
Yn dilyn cais llwyddiannus am arian gan y Gronfa Ffyniant Bro, rydym yn gwella’r mannau cyhoeddus sy’n cysylltu Pedair Priffordd Fawr Llangollen (Camlas Llangollen, hen Reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a’r A5 Ffordd Caergybi). Rhai o’r prif flaenoriaethau yw gwella hygyrchedd, arwyddion a deunyddiau.
Y Pedair Priffordd Fawr: Cynlluniau Trefniant Cyffredinol Tachwedd 2023 (PDF, 1.71MB)
Glanfa Llangollen
Ramp Parc Melin Isaf Dyfrdwy
Parc Melin Isaf Dyfrdwy
Adborth dyluniadau dehongliad a dynodi ffordd
Dehongliad a dynodi ffordd wedi eu Cyfuno: Fersiwn bach a chul
Dyma'r cynlluniau ar gyfer pyst dynodi y ffordd. Defnyddir pyst dynodi ffordd i helpu pobl i lywio o gwmpas ardal.
Mae'r dyluniad hwn yn dangos postyn bach, cul. Gellid gosod y rhain mewn mwy o leoedd nag arwyddion mwy, lletach. Gellid eu defnyddio i ddangos hanes ardal, neu i helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas. Byddem yn sicrhau bod yr arwyddion yn defnyddio lliwiau sy'n cyd fynd â'r ardal y maent yn cael eu gosod ynddi.
* At ddibenion enghreifftiol yn unig.
A: Lliw Cryf - Defnyddio lliwiau ac arlliwiau amlwg ynghyd â ffotograffau a gwaith celf lliw llawn.
B: Lliw Gwannach - Defnyddio lliwiau ac arlliwiau mwynach ynghyd â ffotograffau monoton a deuliw.
C: Du a gwyn - Defnyddio du a gwyn amlwg gydag arlliwiau llwyd.
Dehongliad a dynodi ffordd wedi eu: Cyfuno fersiwn mawr a llydan
Mae'r dyluniad hwn yn dangos postyn mawr, llydan. Gellir eu defnyddio i ddangos hanes ardal, helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas a dangos faint o amser y bydd yn ei gymryd i gerdded i leoliad arall.
Byddem yn sicrhau bod yr arwyddion yn defnyddio lliwiau sy'n cyd fynd â'r ardal y maent yn cael eu gosod ynddi.
* At ddibenion enghreifftiol yn unig.
A: Lliw Cryf - Defnyddio lliwiau ac arlliwiau amlwg ynghyd â ffotograffau a gwaith celf lliw llawn.
B: Lliw Gwannach - Defnyddio lliwiau ac arlliwiau mwynach ynghyd â ffotograffau monoton a deuliw.
C: Du a gwyn - Defnyddio du a gwyn amlwg gydag arlliwiau llwyd.
Dehongliad gydag arwyddbyst sy'n dynodi ffordd
Gallwn hefyd gadw cynnwys y cyfeiriad ar wahân i'r hanes, ond cadw at bostyn sengl fel nad oes gormod o arwyddion yn yr ardal.
Mae'r dyluniad hwn yn dangos yr arwyddbyst i helpu pobl i ddod o hyd i'w ffordd, gyda hanes yr ardal ar waelod y postyn.*
* At ddibenion enghreifftiol yn unig.
A: Arwyddbost gwyn gydag ysgrifen ddu.
B: Arwyddbost du gydag ysgrifen wen.