Trwyddedau storio petrolewm
Os ydych yn rhedeg busnes lle caiff petrol ei storio a’i roi yn uniongyrchol mewn tanc tanwydd motor tanio mewnol, neu os ydych yn storio symiau mawr o betrol ar gyfer defnydd preifat, mae angen trwydded arnoch gan y cyngor.
Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?
Gallwch wneud cais am drwydded storio petrolewm ar-lein.
Gwneud cais ar-lein am drwydded storio petrolewm ar-lein (gwefan allanol)
Adnewyddu
Mae trwydded storio petrolewm yn ddilys am 12 mis. Gallwch adnewyddu eich trwydded ar-lein.
Adnewyddu trwydded storio petrolewm ar-lein (gwefan allanol)
Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?
Os oes gennych drwydded storio petrolewm eisoes a bod eich amgylchiadau yn newid, gadewch i ni wybod.
Rhowch wybod i ni am newid i'ch trwydded storio petrolewm ar-lein
Faint mae’n ei gostio?
Mae ffi’r drwydded yn dibynnu ar faint o betrolewm yr ydych am ei storio:
- Hyd at 25,ooo litr: £41
- Rhwng 25,000 a 50,000 litr: £57
- Mwy na 50,000 litr: £120
Pan fyddwch yn gwneud cais am eich trwydded byddwch yn talu’r ffi ar-lein, gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.