Trwyddedau sŵ

Mae’n rhaid i chi gael trwydded i redeg sŵ. Diffinnir sŵ fel sefydliad lle cedwir anifeiliaid gwyllt ar gyfer eu harddangos a lle gall aelodau o’r cyhoedd fynd i weld yr anifeiliaid ar fwy na 7 diwrnod y flwyddyn.

Cyn gwneud cais

O leiaf deufis cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig (mewn llythyr neu mewn e-bost) eich bod chi’n bwriadu gwneud cais am drwydded sŵ. Mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • lleoliad y sŵ 
  • y math o anifeiliaid ac oddeutu nifer yr anifeiliaid fydd yn cael cadw ar gyfer eu harddangos
  • trefniadau ar gyfer adeiladau’r anifeiliaid, cynnal a chadw’r adeiladau a gofalu am les yr anifeiliaid
  • oddeutu nifer y staff fydd yn cael eu cyflogi yn y sŵ a’u maes arbenigedd
  • oddeutu nifer yr ymwelwyr a cherbydau (bydd angen lle parcio)
  • oddeutu nifer a lleoliad pob mynediad i’r safle
  • sut byddwch yn gweithredu mesurau cadwraeth yn y sŵ

O leiaf deufis cyn gwneud cais, bydd yn rhaid i chi hefyd gyhoeddi rhybudd o’ch bwriad yn eich papur newydd lleol ac mewn un papur newydd cenedlaethol, ac arddangos copi o’r rhybudd hwnnw. Mae’n rhaid i’r rhybudd nodi lleoliad y sŵ a nodi bod copi o’r rhybudd o gais i’r Awdurdod Lleol ar gael i’w archwilio yn ein sŵyddfeydd.

Mae’n bosib y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch chi hefyd.

Sut ydw i’n gwneud cais am y drwydded hon?

Gallwch wneud cais am eich trwydded sŵ deufis ar ôl i chi gyflwyno rhybudd o’ch bwriad. Y ffordd gyflymaf a rhwyddaf i wneud cais yw ar-lein.

Gwneud cais ar-lein am drwydded sŵ (gwefan allanol)

Pan rydym ni’n derbyn eich cais, byddwn yn trefnu bod arolygwr cymeradwyedig yn ymweld â’ch safle a byddwn yn trafod unrhyw amod i’r drwydded gyda chi. Byddwn hefyd yn asesu a yw’r sŵ yn gymwys ar gyfer un o’r gollyngiadau isod, yn dibynnu ar ei faint a’i natur:

  • Gollyngiad Adran 14(1): lle mae awdurdod trwyddedu yn penderfynu bod nifer yr anifeiliaid yn rhy isel neu nad oes angen trwydded am yr anifeiliaid. Er enghraifft, llai na 120 o anifeiliaid neu dim adar ysglyfaethus nac anifeiliaid gwyllt
  • Gollyngiad Adran 14(2): lle rydych chi’n rhoi gwybod i’r ysgrifennydd gwladol bod y sŵ yn rhy fach i gael tîm cyfan o arolygwyr. Bydd yr arolwg wedyn yn cael ei gynnal gan un arolygwr a sŵyddog o’r tîm trwyddedu

Adnewyddu

Os oes arnoch chi angen adnewyddu’ch trwydded sŵ, gallwch ei hadnewyddu ar-lein.

Adnewyddu trwydded Sŵ ar-lein (gwefan allanol)

Rhowch wybod i ni os bydd yna newid

Os oes gennych chi drwydded sŵ a bod eich sefyllfa yn newid, rhowch wybod i ni.

Rhowch wybod i ni am newid i'ch trwydded sŵ ar-lein (gwefan allanol)

Faint mae’n costio?

Mae trwydded sŵ yn costio £900 ac yn ddilys am 4 blynedd. Wedi hynny, bydd yn costio £1,100 i adnewyddu’ch trwydded. Mae trwydded wedi ei hadnewyddu yn ddilys am 6 mlynedd.

Os oes gan eich sŵ ollyngiad Adran 14(2), bydd eich trwydded yn costio £450 ac yn ddilys am 4 blynedd. Wedi hynny, bydd yn costio £550 i adnewyddu’ch trwydded. Mae trwydded wedi ei hadnewyddu yn ddilys am 6 mlynedd.

Os oes gan eich sŵ ollyngiad Adran 14(1), ni fyddwch yn gorfod talu am y drwydded.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am drwydded ar-lein byddwch yn talu’r ffi ar-lein gyda’ch cerdyn debyd neu gredyd.

sŵau trwyddedig presennol

Nid oes sw trwyddedig yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd.