Trwydded sefydliad marchogaeth
Os ydych chi’n rhedeg sefydliad marchogaeth, lle mae ceffylau a merlod yn cael eu llogi ar gyfer marchogaeth neu hyfforddiant marchogaeth, bydd angen trwydded arnoch chi.
Sut ydw i'n gwneud cais am y drwydded hon?
Y ffordd gyflymaf a rhwyddaf i wneud cais am drwydded sefydliad marchogaeth yw ar-lein.
Gwneud cais ar-lein am drwydded sefydliad marchogaeth ceffylau (gwefan allanol)
Adnewyddu
Nid yw'r ffurflen ar-lein hon ar gael ar y funud. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Rhowch wybod i ni os bydd yna newid
Os oes gennych chi drwydded sefydliad marchogaeth yn barod a bod eich sefyllfa yn newid, rhowch wybod i ni.
Rhowch wybod i ni am newid i'ch trwydded sefydlu marchogaeth arlein (gwefan allanol)
Rhoi trwydded
Cyn penderfynu ar eich cais, mae’n rhaid i ni ystyried adroddiad gan filfeddyg. Bydd yr adroddiad hwn yn nodi cyflwr eich adeiladau a’ch ceffylau ac yn nodi p’un ai yw’r adeiladau yn addas ar gyfer dibenion sefydliad marchogaeth.
Faint mae’n costio?
Mae trwydded sefydliad marchogaeth yn costio £250. Mae hefyd yn costio £250 i’w hadnewyddu pob blwyddyn. Bydd yn rhaid i chi hefyd gwrdd â chostau adroddiad y milfeddyg.
Pan rydych chi’n gwneud cais am eich trwydded ar-lein byddwch yn talu’r ffi ar-lein yn defnyddio’ch cerdyn debyd/credyd.
Sefydliadau marchogaeth trwyddedig bresennol yn Sir Ddinbych
Evers Haflinger Centre
Pwllglas
Corwen Road
Pwllglas
LL15 2NT
Rhif ffôn: 07796288364