Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig: Tystysgrif Safle Cymeradwy
Bydd angen i safle neu gerbydau gael eu cymeradwyo gyda Thystysgrif Safle Cymeradwy pan fydd y triniaethau canlynol yn cael eu gwneud:
- Aciwbigo (gan gynnwys anghenion sych)
- Tyllu rhannau o’r corff
- Electrolysis
- Tatŵio (gan gynnwys colur rhannol barhaol / microlafnu)
Bydd y dystysgrif gymeradwyaeth yn cael ei dyrannu i’r unigolyn sy’n gyfrifol am y busnes ar safle gallai hynny olygu’r perchennog, rheolwr neu ymarferydd - nid oes rhaid iddynt fod yn ymgymryd â’r triniaethau eu hunain ac mae’n bosibl na fyddant yn cyflogi ymarferwyr yn uniongyrchol.
Os bydd ymarferydd yn meddu ar drwydded triniaethau arbennig ond yn cael eu cyflogi gan rywun arall, neu’n rhentu cadair/ystafell ar safle busnes rhywun arall, nid oes rhaid iddynt gael tystysgrif gymeradwyaeth safle/cerbyd eu hunain, ond dylent sicrhau bod unrhyw safle neu gerbyd y maent yn eu defnyddio wedi cael ei gymeradwyo.
It will be an offence for a practitioner to undertake any special treatment without a licence or undertake any treatment of an unapproved premises or vehicle.
It will also be an offence not to comply with the specific requirements set out in the regulations for practitioners and premises/vehicles.
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i’r sawl sy’n ymgeisio am Dystysgrif Safle Cymeradwy:
- fod yn 18 oed neu’n hŷn
- darparu tystiolaeth fod ganddynt Ddyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig
Cyrsiau Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig
Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig Mae cyrsiau ymarferwyr wyneb yn wyneb ar gael o:
Mae cyrsiau ar-lein ar gael gan:
Cyfnod y drwydded
Bydd y Dystysgrif Safle Cymeradwy’n para am 3 blynedd o ddyddiad cyflwyno’r drwydded. Bydd y tystysgrifau dros dro’n ddilys am 7 diwrnod.
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi wneud cais ar-lein am dystysgrif Safle Cymeradwy a darparu’r dogfennau ategol.
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd gennych yr opsiwn i greu cyfrif cwsmer. Rydym yn argymell creu cyfrif rhag ofn y byddwch am arbed eich cais a dod yn ôl ato yn nes ymlaen.
Gwneud cais ar-lein am dystysgrif Safle Cymeradwy
Cyfnod pontio ar gyfer safle sydd eisoes wedi cofrestru
Fe fydd yna gyfnod pontio pan ddaw’r cynllun newydd i rym, er mwyn i fusnesau sydd wedi cofrestru drwy’r broses gofrestru flaenorol ymgeisio am Drwydded Safle Cymeradwy, ac os oes angen, Trwydded Triniaethau Arbennig.
Yn ystod y cyfnod pontio, fe fydd y rhai sy’n gyfrifol am safle sydd eisoes wedi cofrestru:
- yn cael tystysgrif trwydded/cymeradwyo pontio am dri mis yn awtomatig er mwyn iddynt barhau i redeg busnes triniaethau arbennig, yn unol â’u dogfen gofrestru bresennol
- angen ymgeisio am Dystysgrif Safle Cymeradwy (mae’n rhaid i ymarferwyr fod â thrwydded neu gael eu cynnwys yn y trefniadau pontio yma i wneud unrhyw driniaethau arbennig yn y safle yma) cyn dydd Gwener 28 Chwefror 2025 gan y bydd y trefniadau trosiannol yn dod i ben ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2025
Os nad ydych chi wedi cael Tystysgrif Safle Cymeradwy, a phan fo angen, safle/cerbyd erbyn diwedd y cyfnod pontio 3 mis, then these premises will no longer be legally allowed to be used by practitioners to practice any of the specified special procedures.
Ni fydd unrhyw eithriad i’r gofynion i gael tystysgrif gymeradwyaeth ac ni ellir ymestyn y cyfnod pontio hwn.
Safleoedd a Cherbydau Newydd
Ni fydd safleoedd/cerbydau newydd na gofrestrodd drwy’r broses gofrestru flaenorol yn gymwys am y cyfnod pontio tri mis.
Ni ellir defnyddio’r safleoedd hyn ar gyfer unrhyw driniaethau arbennig a nodwyd nes byddant wedi cael eu cymeradwyo (a lle bo hynny’n berthnasol, nes bydd yr ymarferwyr wedi’u trwyddedu) dan y cynllun newydd.
Dogfennau Ategol
Rhaid i geisiadau gynnwys y canlynol:
- cynllun o’r safle/cerbyd (gan gynnwys: mynedfeydd/allanfeydd y safle ac ystafelloedd, mesuriadau a siâp unrhyw ystafell o fewn y safle a lleoliad sinciau offer, biniau offer miniog, ystafelloedd staff, ardaloedd/cyfleusterau/ystafelloedd ar gyfer storio cynnyrch ac offer, toiledau, ardaloedd/ystafelloedd aros, sinciau golchi dwylo, biniau gwastraff, ffenestri a gorsafoedd gweithio)
- tystiolaeth i ddangos bod yr ymgeisydd wedi cwblhau Gwobr Lefel 2 yn llwyddiannus (atal a rheoli haint)
- mae llun lliw diweddar o gerbyd wedi'i amgáu (os yw'n berthnasol)
- dilysu enw a dyddiad geni (e.e. pasbort, trwydded yrru ac ati)
Ffioedd
Cynigir y ffioedd canlynol ar gyfer bob trwydded, trwydded dros dro neu amrywiadau eraill.
Ni ystyrir bod cais wedi cael ei gyflwyno nes bydd ffi’r cais wedi cael ei derbyn a’i chlirio.
Ffioedd Trwydded Triniaethau Arbennig
Trwydded neu weithgaredd | Ffi |
Tystysgrif Safle Cymeradwy Newydd (3 blynedd) |
£244 |
Ffi cydymffurfio ar gyfer Tystysgrif Safleoedd Cymeradwy newydd (yn daladwy ar ôl rhoi’r dystysgrif gymeradwyo) |
£141 |
Adnewyddu Tystysgrif Safle Cymeradwy (3 blynedd) |
£204 |
Ffi cydymffurfio ar gyfer adnewyddu Tystysgrif Safleoedd Cymeradwy (yn daladwy ar ôl caniatáu adnewyddu’r dystysgrif gymeradwyo) |
£141 |
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (digwyddiad atodol) |
£385 |
Safle/Cerbyd Cymeradwy - Cymeradwyaeth Dros Dro (confensiwn/prif bwrpas) |
£680 |
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (ychwanegu triniaeth) |
£189 |
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid strwythurol) |
£189 |
Amrywio Tystysgrif Safle/Cerbyd Cymeradwy (newid manylion) |
£26 |
Prosesu ac Amserlenni
Caiff ceisiadau newydd eu prosesu o fewn yr amserlenni a nodwyd gan ganllawiau statudol/anstatudol Llywodraeth Cymru.
Caiff safle sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd wedi ymgeisio am Dystysgrif Safle Cymeradwy o fewn y cyfnod pontio o 3 mis, eu prosesu o fewn 3 mis o ddiwedd y cyfnod pontio, neu’n gynt (h.y. 6 mis o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym).
Deddfwriaeth ac amodau
Mae’r Rheoliadau drafft gan gynnwys gofynion ac amodau penodol ar gyfer safleoedd ar gael ar Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024.
Darllen Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024 (gwefan allanol)
Y rheoliad trosfwaol sy’n amlinellu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig a gofynion cyfreithiol eraill yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Rhan 4).
Darllen Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 (Rhan 4) (gwefan allanol)
Amodau cymeradwyo gorfodol
Amodau cymeradwyo gorfodol: tystysgrif cymeradwyo (gwefan allanol)