‘Rhyddfreiniwr y Tir’ a heriau i gyfreithlondeb Treth y Cyngor
Mae mudiad Rhyddfreiniwr y Tir, Llys y Gyfraith Gyffredin a grwpiau tebyg yn credu mai dim ond os ydyn nhw’n cytuno i dalu Treth y Cyngor y mae’n rhaid iddyn nhw wneud hynny, ond nid yw hyn yn wir.
Mae'n ofynnol i Dreth y Cyngor gael ei chodi a'i thalu yn ôl y gyfraith sy'n berthnasol i bawb, nid oes angen cytundebau personol na chydsyniad.
Deddfwriaeth
Mae’r ddeddfwriaeth ganlynol yn cwmpasu Treth y Cyngor:
Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn nodi pwy sy’n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor.
Nid yw eich enw cyfreithiol na’i fformat yn effeithio ar eich cyfrifoldeb i dalu Treth y Cyngor; mae’n berthnasol i bwy bynnag sy’n gyfreithlon atebol ac sydd wedi’i enwi ar y bil.
Cyfreithiau Cwmni neu Gontract
Mae Treth y Cyngor yn ofynnol dan y gyfraith, nid dan gontract. Nid yw’r canlynol yn berthnasol i Dreth y Cyngor:
- Deddf Cwmnïau
- Deddf Contractau
- Deddf Biliau Cyfnewid
- Deddfau eraill sy’n ymwneud â chwmnïau neu gontractau
Adennill taliadau am Dreth y Cyngor
Mae’n ofyniad cyfreithiol adennill Treth y Cyngor heb ei thalu ac nid yw’n torri Deddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997.
Deddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu 1997 (gwefan allanol)
Os na fyddwch chi’n talu, mae’n bosibl y byddwn ni’n cymryd camau cyfreithiol, gan gynnwys achosion llys ac asiantau gorfodi.
Nodiadau addewidiol
Ni dderbynnir nodiadau addewidiol fel taliad.
Edrychwch sut gallwch chi dalu Treth y Cyngor.
Ymholiadau Rhyddfreiniwr y Tir a Llys y Gyfraith Gyffredin
Gallwch gysylltu â ni am ymholiadau Rhyddfreiniwr y Tir neu Lys y Gyfraith Gyffredin, ond rydym yn cadw’r hawl i wrthod ymateb i ymholiadau sy’n canolbwyntio ar ddadleuon damcaniaethol nad oes ganddynt unrhyw sail mewn statud ac sy’n defnyddio ein hadnoddau ar draul trethdalwyr eraill.
Cyngor cyfreithiol
I gael cyngor cyfreithiol, ymgynghorwch â gweithiwr proffesiynol neu Gyngor ar Bopeth, a gofalwch rhag cael gwybodaeth anghywir ar-lein.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech ragor o wybodaeth am sut caiff Treth y Cyngor ei chyfrifo a’i gwario, gallwch fynd i’r dudalen egluro eich bil Treth y Cyngor.
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich Treth Cyngor, ewch i'n tudalen problemau talu treth y cyngor.