Mewngofnodi neu gofrestru eich cyfrif treth y cyngor
Gallwch gadw golwg ar eich treth y cyngor a gwneud newidiadau gyda chyfrif ar-lein. Mae cofrestru yn gyflym ac yn hawdd.
Mewngofnodwch neu cofrestrwch eich cyfrif
Gyda chyfrif ar-lein, gallwch:
Weld eich manylion ar-lein
Cael gwybod pryd fydd eich taliadau a faint fyddant.
Trefnu e-Filio
Gallwch drefnu i dderbyn eich biliau ar e-bost yn hytrach nag i fersiwn bapur gael ei phostio. Mae hon yn ffordd effeithiol ac effeithlon o roi biliau ac mae hefyd yn ein helpu i leihau gwariant ar bostio a phacio. Unwaith y byddwch wedi eich cofrestru byddwch yn derbyn unrhyw filiau treth cyngor blynyddol, cau biliau ac addasiadau yn eich e-bost.
Os bydd eich cyfeiriad ebost yn newid ar unrhyw adeg yn y dyfodol, rhaid i chi hysbysu’r Adran Dreth Gyngor ar unwaith.
Gwybodaeth personél
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn defnyddio’r cyfeiriad ebost a roddwch i ddibenion anfon fersiwn electronig eich bil Treth Gyngor neu fil Ardrethi Annomestig Cenedlaethol atoch. Ni chaiff eich gwybodaeth bersonol ei gwerthu na’i rhannu gyda thrydydd partïon ac ni chaiff ei defnyddio i unrhyw bwrpas ac eithrio dan Orchymyn y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) 2009.
Gwneud trefniant talu
Sefydlu cynllun talu i dalu eich treth y cyngor.
Cofrestru ar gyfer Debyd Uniongyrchol
Mae talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yn ddiogel ac yn hawdd - trefnwch Ddebyd Uniongyrchol ar-lein i dalu eich treth y cyngor.
Rhoi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein
Rhoi gwybod i ni os ydych yn symud i mewn neu allan o eiddo yn Sir Ddinbych.
Cael gwybod faint yw treth y cyngor mewn eiddo
Cael gwybod beth yw band eiddo a faint o dreth y cyngor fyddai'n daladwy.
Gwneud cais am Ostyngiad Person Sengl
Gallwch wneud cais ar-lein am 25% o ostyngiad os mai chi yw'r unig oedolyn sy'n byw yn eich prif fan preswylio.
Sgwrsio gydag ymgynghorydd
Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.