Adolygiad Deiliadaeth Treth y Cyngor

Rydym yn adolygu deiliadaeth eiddo yn Sir Ddinbych er mwyn sicrhau fod pawb yn talu’r swm cywir o Dreth y Cyngor. 

Cyflawnir yr adolygiad hwn gan Dîm Adolygu Incwm a Dyfarniad ar ein rhan.

Llythyrau Adolygu

Bydd llythyrau adolygu yn cael eu hanfon i ddeiliaid cyfrif treth y cyngor sydd ar hyn o bryd yn atebol i dalu Treth y Cyngor er mwyn darganfod deiliadaeth eiddo. Bydd y llythyr yn cynnwys rhif PIN unigryw i’w ddefnyddio wrth gwblhau eich ymateb.

Os na fyddwch yn ymateb i’r llythyr adolygu o fewn 14 diwrnod, gall arwain at dâl premiwm os nad ellir penderfynu ar fanylion y ddeiliadaeth.

Sut i gadarnhau manylion deiliadaeth

Gallwch gadarnhau manylion deiliadaeth eiddo trwy un o’r dulliau canlynol:

Dim ond un dull sydd angen i chi ei ddefnyddio i gadarnhau eich manylion.

Ffurflen Adolygu Deiliadaeth Ar-lein

Fe fydd angen i chi roi eich rhif PIN unigryw i gael mynediad at y ffurflen adolygu deiliadaeth ar-lein. Gallwch ddod o hyd i’r rhif PIN hwn ar y llythyr adolygu a anfonwyd atoch.

Ffurflen Deiliadaeth Ar-lein (gwefan allanol)

Cwblhau’r ffurflen ar y llythyr adolygu

Gallwch lenwi’r ffurflen ar gefn y llythyr adolygu a’i dychwelyd o fewn 14 diwrnod i’r cyfeiriad hwn:

PO Box 11326
Nottingham
NG1 9RE

Peidiwch â dychwelyd y ffurflen hon at Gyngor Sir Ddinbych.

Mwy o wybodaeth

Wrth gadarnhau deiliadaeth eiddo, dylech fod yn ymwybodol:

  • fod yn rhaid i chi ddweud wrthym os yw eich amgylchiadau’n newid (mae hyn yn cynnwys dweud wrthym ni am unrhyw newidiadau i ddeiliadaeth y cyfeiriad)
  • gallwn roi dirwy o £50 os ydych:
    • yn methu darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani
    • yn darparu gwybodaeth ffug