Digartrefedd: pwy all gael help?
O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 nid yw pawb yn gymwys i gael help i atal digartrefedd ond mae gan bawb hawl i wybodaeth a chyngor.
Ni fydd gan rai pobl hawl i help i atal digartrefedd, er enghraifft:
- nid ydych wedi byw yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw am y 5 mlynedd diwethaf, ac nid ydych yn cael eich ystyried yn breswylydd sefydlog yma
- rydych yn ddinesydd Ewropeaidd sy'n torri 'Cyfarwyddeb Breswyl'
- rydych wedi hawlio lloches ers cyrraedd y wlad hon o dramor ac mae'r Swyddfa Gartref yn dal i ystyried eich cais
- rydych yn fewnfudwr anghyfreithlon
- rydych wedi goraros eich caniatâd i fyw yn y DU
- mae gennych ganiatâd cyfyngedig i aros yn y wlad hon (er enghraifft myfyrwyr ac ymwelwyr), ac ni chaniateir i chi hawlio cymorth gydag arian na llety o Gronfeydd Cyhoeddus
- os penderfynir nad ydych yn gymwys, rhoddir llythyr i chi yn esbonio'r rhesymau dros y penderfyniad. Byddwch yn cael cyngor a chymorth ynghylch yr help a allai fod ar gael ichi gan asiantaethau eraill neu ffyrdd eraill o ddod o hyd i lety addas
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth i atal digartrefedd, bydd gwybodaeth a chyngor ar gael i chi o hyd gan nifer o asiantaethau.
Os canfyddir eich bod yn gymwys i gael cymorth, y cam nesaf fydd deall eich sefyllfa a darparu'r gefnogaeth gywir. Os ydych chi'n poeni am dalu'ch rhent neu'ch morgais er enghraifft, gallwn:
- gynnig cyngor a chymorth annibynnol am ddim i chi gydag unrhyw ddyled, ôl-ddyledion morgais neu rent
- eich cyfeirio chi at CAB Sir Ddinbych i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau lles y mae gennych hawl iddynt a darparu cyngor a chymorth gyda Hawliadau neu apeliadau Budd-dal Tai (os ydych chi'n rhentu)
- eich cyfeirio at Shelter Cymru a allai eich cefnogi mewn achos llys ar gyfer materion dyled a thai
Beth bynnag yw'r broblem, gofynnwch am gyngor ar unwaith. Peidiwch ag oedi.
Sut i gael help
I gael help a chyngor, ac i drafod eich opsiynau, gallwch:
Helpwch eich hun gyda'n canllaw atal digartrefedd.
Tu Allan i Oriau Swyddfa
Os byddwch yn dod yn ddigartref y tu allan i oriau gwaith, ac nad oes gennych unrhyw le diogel i gysgu gallwch ffonio ein gwasanaeth y tu allan i oriau ar 0300 123 30 68.