Mae eiddo tai fforddiadwy ar gael drwy dai newydd a adeiladwyd, prynu tai presennol ac ailosod neu ailwerthu tai fforddiadwy presennol. Mae’r cyflenwad hwn yn dod ar gael ar draws y sir.
Mae yna ystod o fathau gwahanol o dai fforddiadwy.
Rhent cymdeithasol
Eiddo rhent Cyngor Traddodiadol neu Gymdeithas Tai (Landlord Cymdeithasol Cofrestredig). Mae eiddo yn cael ei ddyrannu drwy’r polisi dyrannu Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) ac yn seiliedig ar fandio yn ôl blaenoriaeth a dyddiad cais. Mae hwn yn cael ei redeg drwy bartneriaeth ranbarthol ac mae’n cynnwys y rhan fwyaf o Ogledd Cymru. Mae’r math yma o dai fel arfer y rhataf i’w rhentu.
Rhentu neu brynu (neu gymysgedd o’r ddau)
Mae yna wahanol fathau o dai fforddiadwy, gan gynnwys help i brynu cartref, rhent gyda gostyngiad a Rhentu i Brynu, sy’n cyfuno elfennau o’r ddau. Mae dewisiadau deiliadaeth newydd yn cael eu datblygu.
Tai Teg
Gallwch gael mynediad at fathau eraill o dai fforddiadwy, gan gynnwys tai rhent a mathau amrywiol o berchnogaeth tai drwy gofrestr Tai Teg. Mae newidiadau i gymhwysedd yn golygu bod lefelau isafswm incwm bellach yn berthnasol. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Tai Teg (gwefan allanol).
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
O fewn Sir Ddinbych mae yna eiddo gan Gyngor Sir Ddinbych ac mae yna 6 o Gymdeithasau Tai (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) sy’n gweithredu yn y Sir. Dyma’r dolenni i’r gwefannau ar gyfer mwy o wybodaeth (yn nhrefn yr wyddor):