Sir Ddinbych yn gweithio: Prosiect Barod 

Mae tîm Prosiect Barod yn cefnogi preswylwyr 16 oed neu hŷn Sir Ddinbych i oresgyn rhwystrau megis diffyg cymhelliant neu heriau o ran lles i ddychwelyd i fyd gwaith neu at hyfforddiant.

Rydym yn cynnig cymorth gyda:

  • chwilio am gyfleoedd: dod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli, hyfforddiant neu swyddi
  • cynlluniau personol: llunio cynllun cam wrth gam i fynd i’r afael â heriau a chyflawni eich nodau
  • cefnogaeth un i un: magu hyder, gwella sgiliau cyfweliad a gwneud cais am swyddi neu gyrsiau
  • cyngor arbenigol: cael cymorth gyda thai, budd-daliadau, dyledion neu i gael gafael ar wasanaethau cwnsela
  • hyfforddiant sgiliau: dysgu sut i weithio mewn tîm, ysgrifennu CV a thechnegau cyfweliad
  • sgiliau sylfaenol: gwella sgiliau darllen, ysgrifennu neu fathemateg gydag Addysg Oedolion Cymru
  • gweithgareddau grŵp hwyliog: cymryd rhan mewn gweithgareddau creu ffilmiau, anturiaethau yn yr awyr agored a mwy

Rydym ni yma i’ch helpu chi symud ymlaen.

Sut i gael cefnogaeth drwy Brosiect Barod

Mae Prosiect Barod yma i’ch helpu chi i gymryd y cam nesaf, boed hynny’n dod o hyd i swydd, cael hyfforddiant neu deimlo’n fwy hyderus ac yn barod am y dyfodol.

Cysylltwch â ni i gael cefnogaeth drwy Brosiect

Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
  • Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn unrhyw un o’n sesiynau galw heibio
  • Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.

Dilynwch ni

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy Working Denbighshire logo