Sir Ddinbych yn gweithio: Dechrau Gweithio

Mae lleoliadau Dechrau Gweithio Sir Ddinbych yn gweithio yn cynnig cyfle cyffrous i breswylwyr Sir Ddinbych ennill profiad gwaith go iawn gan fagu hyder a dysgu sgiliau newydd. 

Os ydych chi’n dechrau gyrfa, dychwelyd i’r gwaith, neu’n eisiau ceisio rhywbeth newydd, mae’r lleoliadau wedi’u dylunio i’ch helpu chi gael profiad ymarferol mewn amgylchedd llawn cefnogaeth.

Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i ddarparu lleoliadau tymor byr sy’n rhoi cyfle i chi ddysgu wrth weithio, gwella eich CV, a gwneud cysylltiadau gwerthfawr ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Yn ogystal â hynny, byddwch yn derbyn cefnogaeth un i un gan ein tîm, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y mwyaf allan o’ch profiad.

Mae Lleoliadau Dechrau Gweithio eisiau eich helpu chi i gymryd y cam cyntaf pwysig hwnnw tuag at ddyfodol disglair, gyda chyfleoedd sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch nodau gyrfa. Gyda’n canllawiau, byddwch yn ennill y profiad a’r hyder sydd ei angen arnoch i symud ymlaen i fyd gwaith.

Peidiwch â chymryd ein gair yn unig, clywch gan y bobl sydd wedi elwa o’n Lleoliadau Dechrau Gweithio:

Cyfleoedd am leoliadau

Gallwch ganfod neu wneud cais am gyfleoedd lleoliad gwaith ar denjobs.org (gwefan allanol)

Trefnu lleoliad

Cysylltwch â ni i drefnu lleoliad yn eich diwydiant dewisol

Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
  • Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn unrhyw un o’n sesiynau galw heibio
  • Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.

Dilynwch ni

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy Working Denbighshire logo