Sir Ddinbych yn gweithio: Cefnogaeth un i un

Mae cefnogaeth un i un Sir Ddinbych yn Gweithio yma i’ch helpu chi i gymryd y cam nesaf tuag at swydd neu hyfforddiant. P’un ai a oes angen cymorth arnoch gyda’ch CV, paratoi ar gyfer cyfweliad neu ddarganfod y cwrs iawn, bydd ein mentoriaid cyfeillgar yn gweithio gyda chi bob cam o’r ffordd.

Rydym yn cynnig cefnogaeth bersonol i feithrin eich hyder, datblygu sgiliau newydd a chwalu unrhyw rwystrau sy’n eich dal yn ôl. Beth bynnag fo’ch amcanion rydym yma i wrando arnoch chi a’ch arwain chi, gan sicrhau fod gennych chi’r cymhelliant a’r adnoddau i lwyddo.

Gyda Sir Ddinbych yn Gweithio dydych chi fyth ar eich pen eich hun ar eich taith i ddod o hyd i waith neu hyfforddiant – rydym ni gyda chi bob cam.

Peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig, gwrandewch ar y rhai hynny sydd wedi elwa o’n cefnogaeth Un i Un:

Sut i gael cefnogaeth un i un

Gallwch gofrestru ar-lein i gael cefnogaeth un i un.

Cysylltwch â ni i gofrestru ar gyfer Cefnogaeth un i un

Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
  • Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn unrhyw un o’n sesiynau galw heibio
  • Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.

Dilynwch ni

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy Working Denbighshire logo