Sir Ddinbych yn Gweithio: Clybiau Swyddi

Mae Clybiau Swyddi yn darparu cefnogaeth un i un i’ch helpu i oresgyn heriau a symud i mewn i fyd gwaith. Mae ein staff ar gael i’ch cynorthwyo gydag anghenion lles a chynnig cymorth gyda:

  • CVs
  • datganiadau personol
  • hyfforddiant ar-lein
  • chwilio am swydd
  • ceisiadau

Cewch y canllawiau sydd eu hangen arnoch i gymryd y cam nesaf.

Pobl sy'n gwneud ymchwil gyda'i gilydd mewn llyfrgell

Pwy sy’n cael dod?

Mae Clybiau Swyddi ar gyfer unrhyw un sydd dros 16 mlwydd oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych, ac nid mewn addysg neu gyflogaeth.

Pryd a lle fydd y sesiynau’n cael eu cynnal?

Cynhelir Clybiau Swyddi yn:

Sut i gymryd rhan

Gall unrhyw un sydd allan o waith neu addysg, dros 16 oed ac sy'n byw yn Sir Ddinbych ddod i unrhyw un o'n sesiynau - nid oes angen apwyntiad, sesiynau yn hollol rad ac am ddim ac nid oes cyfyngiad ar faint o sesiynau y gallwch eu mynychu.

Beth i'w ddod gyda chi

Byddai’n ddefnyddiol petaech yn dod â:

  • phrawf adnabod - os nad oes gennych brawf adnabod, a hoffech wneud cais am un, gallwch alw heibio, a byddwn yn eich helpu gyda’ch anghenion.
  • eich CV
  • unrhyw waith papur sy’n berthnasol i’ch anghenion

Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
  • Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn unrhyw un o’n sesiynau galw heibio
  • Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.

Dilynwch ni

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy Working Denbighshire logo