Sir Ddinbych yn Gweithio: Gwybodaeth i gyflogwyr
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol i ddiwallu anghenion recriwtio, wrth hefyd ddatblygu gweithlu medrus, sy’n ffynnu.
Mae ein gwasanaethau rhad ac am ddim yn eich rhoi mewn cysylltiad ag ymgeiswyr llawn cymhelliant, sy’n barod i weithio, a thrwy hynny yn cefnogi’r gymuned leol.
Sut rydym ni’n helpu cyflogwyr
Dyma sut yr ydym ni’n cefnogi cyflogwyr:
- Cymorth Recriwtio wedi’i Deilwra: Rydym yn eich paru gyda cheiswyr gwaith lleol sydd wedi derbyn cymorth a hyfforddiant personol
- Lleoliadau Gwaith wedi’u Teilwra: Rydym yn cynllunio lleoliadau, prentisiaethau a rhaglenni hyfforddi i ddiwallu anghenion eich busnes
- Datblygu Sgiliau eich Tîm: Cael hyfforddiant i wella sgiliau a chynhyrchiant staff
- Cefnogaeth Barhaus: Rydym yn helpu staff newydd i ymgynefino yn rhwydd er mwyn sicrhau llwyddiant hirdymor
- Cyfrifoldeb Cymdeithasol: Dangos eich ymrwymiad i leihau diweithdra a chefnogi'r economi leol
Cofrestru i weithio gyda ni
Mae cyflogwyr sy’n cofrestru â ni yn cael gafael ar ymgeiswyr medrus ac yn amlygu eu rôl o ran meithrin cymuned fwy cadarn.
Cofrestrwch eich diddordeb heddiw a gadewch i ni eich helpu i dyfu eich busnes.
Cysylltwch â ni i gofrestru eich diddordeb yn Sir Ddinbych yn Gweithio
Cysylltu â ni
- Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
- Ymweld â ni - Ymwelwch â ni wyneb yn wyneb yn unrhyw un o’n sesiynau galw heibio
- Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.
Dilynwch ni