Lles ariannol: cefnogaeth a gwybodaeth

Dewiswch deitl i ddarganfod mwy.

Dewiswch bennawd isod am ragor o wybodaeth.

Undeb Credyd Cambrian: cynllun arbed cyflogau

Undeb Credyd Cambrian: cynllun arbed cyflogau

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi uno gyda Cambrian Cynilion & Benthyciadau (gwefan allanol) i gynnig ffordd rhwydd i’n staff gynilo neu fenthyg arian ychwanegol pan fyddwch ei angen.

Gyda’r cynllun cynilo cyflogau Moneyworks Cymru (gwefan allanol), gallwch ddewis faint o arian yr hoffech ei neilltuo’n rheolaidd a bydd y swm hwn yn cael ei dalu’n uniongyrchol o’ch cyflog i’ch cyfrif Cambrian Cynilion & Benthyciadau. Gallwch amrywio’r swm yr hoffech ei neilltuo ar unrhyw bryd a bydd gennych fynediad at eich cynilion lle bo angen.

Os oes arnoch chi angen benthyciad, efallai yn sgil gwariant annisgwyl, i dalu dyledion neu dalu am welliannau i’ch cartref, mae Cambrian Cynilion & Benthyciadau yn cynnig gwasanaeth sy’n sympathetig yn ariannol gyda chyfraddau benthyciad am ostyngiad.

Gwneir ad-daliadau yn uniongyrchol o’ch cyflog, gan gynnig tawelwch meddwl i chi y bydd eich taliadau yn cael eu gwneud ar amser.

Pam ymuno â’r cynllun?

  • Mae’n ffordd hawdd o gynilo ar gyfer argyfyngau bychain neu am wyliau, ar gyfer y Nadolig, neu gar newydd, ac ati.
  • Mae swm bychan sy’n cael ei dynnu o’ch cyflog yn awtomatig yn troi’n gelc go dda heb ichi sylwi.

Hefyd, benthyciadau syml, hyblyg, fforddiadwy

  • Ar gael pan mae ei angen, gyda chyfnodau ad-dalu hyblyg i’ch siwtio chi.
  • Llog isel, dichonadwy, ac nid oes ffioedd i’w talu am ad-dalu’n gynnar.

I agor cyfrif:

Ewch i www.cambriancu.com/cy (gwefan allanol), cliciwch ar “dod yn aelod” a lawrlwytho ein ap ffôn symudol App Store (gwefan allanol) neu Google Play (gwefan allanol) i gael mynediad i’n gwasanaethau.

I ddechrau cynilo yn uniongyrchol o’ch cyflog, dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  1. ewch i www.cambriancu.com/cy/cyflogres
  2. dewiswch eich cyflogwr o’n rhestr ddisgynnol
  3. lawrlwythwch, cwblhewch y ffurflen a’i hanfon at payroll@cambriancu.com gyda’r swm rydych yn dymuno ei gynilo neu dalu tuag at fenthyciad bob mis

A oes unrhyw ffioedd aelodaeth?

Mae’n rhaid i bob aelod o Undeb Credyd Cambrian gadw £5 yn eu cyfrif bob amser - tâl aelodaeth blynyddol yw £3 sy’n cael ei dynnu’n flynyddol ar y dyddiad wnaethoch ymuno â’r undeb credyd.

Gweler hefyd

Beth yw Undeb Credyd? (gwefan allanol)

Gwasanaeth Arian a Phensiynau / Helpwr Arian

Cefnogaeth a gwybodaeth

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) er mwyn i’n gweithwyr gael gwybodaeth hygyrch a chanllawiau er mwyn iddynt allu teimlo’u bod yn gallu rheoli'u harian.

Mae’r wybodaeth isod yn darparu’r dolenni i’r pynciau ar wefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, ond mae llawer iawn mwy o wybodaeth ychwanegol i’w chanfod yno hefyd.

Cymorth Costau Byw

Helpwr Arian: Help gyda chostau byw (gwefan allanol)

Teclyn Llywio Ariannol

Dyma ddolen i’r Teclyn Llywio Ariannol. Mae’r Teclyn Llywio Ariannol wedi’i ddatblygu i helpu pobl y mae Covid-19 wedi effeithio ar eu sefyllfa ariannol, gan roi canllawiau sy’n unigryw i’w hanghenion.

Helpwr Arian: teclyn llywio ariannol (gwefan allanol)

Teclynnau a chyfrifianellau

Dyma rai enghreifftiau o’r teclynnau a’r cyfrifianellau y mae MaPS yn ei cynnig i gefnogi staff:

Dyma ddim ond rhai o’r teclynnau sydd ar gael. Gallwch weld mwy ar:  Helpwr Arian: offer a chyfrifianellau (gwefan allanol)

Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant

Wedi’ch geni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011? Efallai fod arian yn aros amdanoch mewn Cronfa Ymddiriedolaeth Plant!

Os ydych chi rhwng 9 a 18 oed, a bod eich rhieni wedi bod yn derbyn Budd-dal Plant, mwy na thebyg fod gennych Gronfa Ymddiriedolaeth Plant. Mae’r rhain yn gyfrifon a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU er mwyn darparu pot o arian ichi pan fyddwch yn cyrraedd 18 oed. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol: Helpwr Arian: Cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (gwefan allanol) ac ar wefan y llywodraeth: GOV.UK: Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (gwefan allanol)

Help i Gynilo

Help i Gynilo

Mae ‘Help i Gynilo’ yn fath o gyfrif cynilo sy’n caniatáu i unigolion penodol y mae ganddynt hawl i gael Credyd Treth Gwaith, neu sy’n cael Credyd Cynhwysol, i gael bonws o 50c am bob £1 a gynilir dros 4 blynedd. Mae Help i Gynilo’n cael cefnogaeth y llywodraeth, felly mae’r holl gynilon yn y cynllun yn ddiogel. GOV.UK: help gyda chynilion os ydych ar incwm isel (gwefan allanol).

Cronfa Bensiynau Clwyd

Cronfa Bensiynau Clwyd

Byddwch yn ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn awtomatig. Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun rhagorol ac mae rhai o’r buddion wedi’u nodi isod:

  • pensiwn i’ch gŵr/gwraig, partner sifil, neu bartner yr ydych yn cyd-fyw â nhw, am oes.
  • grant marw yn y swydd sy’n dair gwaith cymaint â’ch cyflog blynyddol o’r diwrnod yr ydych yn ymuno.
  • cyfandaliad di-dreth o hyd at 25% o gyfanswm gwerth y buddion.
  • telir y budd-daliadau’n gynnar os bydd raid ichi roi’r gorau i weithio’n barhaol oherwydd salwch.
  • mae bod yn rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn golygu eich bod yn talu Yswiriant Gwladol ar raddfa is. Fodd bynnag, ers 6 Ebrill 2016, mae eich taliad Yswiriant Gwladol wedi cynyddu i’r gyfradd Yswiriant Gwladol arferol a delir ym mhob sector – sydd tua 1.4% yn uwch nag a delid cyn mis Ebrill 2016.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch pensiwn, cysylltwch â Phensiynau Clwyd ar 01352 702761. Fel arall, ewch i wefan Cronfa Bensiynau Clwyd (gwefan allanol) neu wefan Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (gwefan allanol).

Cynllun Pensiwn Athrawon

Cynllun Pensiwn Athrawon

I gael gwybod mwy am Teachers' Pension, ewch i’r wefan Teachers Pensions (gwefan allanol).

Cysylltu â ni