Gwobrau Uniongyrchol CSDd gyda Vivup ar gyfer arbedion i weithwyr

Mae rhaglen Gwobrau Uniongyrchol Cyngor Sir Ddinbych gyda Vivup yn rhoi mynediad i chi at yr holl arbedion a’r buddion sy’n dod o weithio i Gyngor Sir Ddinbych.

Gall gweithwyr ddechrau cynilo drwy fynd i wefan Gwobrau Uniongyrchol Cyngor Sir Ddinbych gyda Vivup (gwefan allanol) a chofrestru gan ddefnyddio’u cyfeiriad e-bost a’u rhif cyflog.

Mae amrywiaeth wych o Arbedion Ffordd o Fyw ar gael ar-lein neu ar y stryd fawr, yn genedlaethol ac yn eich ardal leol ar gyfer bwyd, gwyliau, bwyta allan, DIY, offer trydanol, yswiriant, moduro a mwy. Mae yna filoedd o gynigion a buddion ar gael ac fe allwch chi arbed cannoedd o bunnoedd wrth siopa. Gallwch arbed arian drwy ddefnyddio taliad arian-yn-ôl, gostyngiadau ar-lein, siopa ar y ffôn a defnyddio’ch ap Vivup ar gyfer gostyngiadau mewn siopau.

Mae Aberthu Cyflog yn ffordd wych i chi arbed drwy hepgor cyfran o’ch cyflog (fydd wedi’i eithrio rhag Yswiriant Cenedlaethol a Threth) sy’n golygu eich bod wedyn yn cael buddion ardderchog.

Yn ogystal â’r Buddion Ffordd o Fyw uchod, rydym hefyd yn cynnwys buddion eraill sy’n cynnwys:

  • cynllun pensiwn cystadleuol
  • lwfans gwyliau blynyddol hael, a'r cyfle i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol (ac eithrio athrawon a gweithwyr yn ystod y tymor yn unig)
  • gostyngiad ym mhris Aelodaeth Hamdden Gweithle Actif
  • Cynllun Beicio i’r Gwaith
  • cynlluniau yswiriant meddygol
  • cynllun aberthu cyflog i gael car (Tuskers), a chynllun prydlesu car Ceir rhagor o wybodaeth am y cynllun prydlesu car trwy ffonio’r Gwasanaethau Fflyd ar 01824 708460
  • prynu Microsoft Office ar gyfer eich cyfrifiadur gartref am bris gostyngol
  • arbed arian ar Fysiau Arriva
  • Undeb Credyd Cambrian
  • rhoi wrth i chi ennill
  • Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Gwobrau Uniongyrchol CSDd gydag ap Vivup

Er mwyn parhau i gael mynediad at arbedion gwych, sicrhewch eich bod wedi cofrestru ar dccrewardsdirect.vivup.co.uk ac yna bydd angen ichi lawrlwytho’r ap Vivup.

Sut i gael at yr ap:

  1. lawrlwythwch ap ‘ap Vivup’ ar yr Apple Store neu Google Play
  2. rhowch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair

A dechreuwch arbed arian!

Os nad oes gennych ffôn clyfar, cysylltwch â’r Arbenigwyr Cyflog a Gwobrau ar 01824 712629.

Cysylltu â ni