Oriau Gwaith
Mae oriau gwaith safonol gweithiwr llawn amser yn 37 awr yr wythnos. Gall wythnos waith gweithwyr unigol amrywio o’r 37 awr safonol, ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr nad yw cyfartaledd oriau gwaith wythnosol y gweithiwr dros gyfnod penodol yn fwy na’r wythnos waith safonol ar gyfer yr un cyfnod.
Bydd y patrwm gweithio yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth a gall fod yn hyblyg, yn flynyddol, gydag oriau penodol neu ar sail rota.
Bydd unrhyw newid i’r wythnos waith sefydledig yn un rhesymol ac yn rhoi digon o rybudd. Bydd unrhyw newid sylweddol yn destun ymgynghoriad pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig. Bydd patrwm unrhyw drefniant gweithio diwygiedig a thaliad cydnabyddiaeth yn berthnasol i welliant parhaus y gwasanaeth.
Bydd eich trefniadau gweithio yn cydymffurfio â’r deddfwriaethau iechyd a diogelwch perthnasol, gan gynnwys y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith Ewropeaidd a’i deddfwriaeth gysylltiedig yn y Deyrnas Unedig.