Cymryd rhan mewn diwrnod gweithredu diwydiannol
Atgoffir gweithwyr bod cymryd rhan mewn diwrnod gweithredu diwydiannol yn torri amodau eu contract. Ar gyfer gweithwyr (ac eithrio athrawon) sy’n gweithio 37 awr yr wythnos / 5 niwrnod yr wythnos bydd cymryd rhan mewn diwrnod gweithredu diwydiannol yn golygu y tynnir gwerth 7.40 awr (20%) o gyflog o’ch tâl (llai os ydych chi’n gweithio rhan-amser).
Os ydych chi’n athro bydd y didyniadau yn unol â’r hyn a nodir yn Adran 3, paragraff 3.2 y ‘Llyfr Bwrgwyn’, sef didyniad o 1/365 ar gyfer absenoldeb di-dâl (rhoddir gweithredu diwydiannol fel enghraifft o’r adegau lle gwneir y didyniad hwn). Bydd y didyniad o 1/365 yn berthnasol i athrawon llawn amser a rhan-amser.
Os ydych chi’n mynd i’r gwaith yn ôl yr arfer ar unrhyw ddiwrnod o weithredu diwydiannol bydd yn rhaid i chi gofrestru'ch presenoldeb er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael eich talu am y diwrnod hwnnw. Bydd eich rheolwr/pennaeth yn rhoi gwybod i chi beth yw’r trefniadau ar gyfer hyn.
Os ydych chi’n ymgymryd â dyletswyddau rheithgor, yn gwasanaethu ar gorff cyhoeddus neu’n ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus, byddwch yn derbyn caniatâd i fod yn absennol gyda thâl.
Os ydych chi'n gymwys i wneud cais am golli enillion fe ddylech chi lenwi’r ffurflen berthnasol. Pan fyddwch chi’n derbyn y taliad yn uniongyrchol bydd didyniad yn cael ei wneud o’ch cyflog. Nid yw hyn yn cynnwys amser i ffwrdd ar gyfer gweithwyr sy’n gorfod mynychu’r llys fel tyst ar gyfer achos sy’n amherthnasol i Gyngor Sir Ddinbych. Dan amgylchiadau o’r fath dylai gweithwyr gymryd gwyliau blynyddol, gweithio oriau hyblyg neu gymryd absenoldeb di-dâl.