Buddiannau Gweithwyr (Gwybodaeth i weithwyr newydd)
Mae yna nifer o gynlluniau gwobrwyo a buddiannau i weithwyr, o arbedion ffordd o fyw i gynlluniau pensiwn.
Sylwer na fydd rhai o'r budd-daliadau hyn yn berthnasol i athrawon a/neu weithwyr nad ydynt yn perthyn i'r CGC.
DCC Rewards Direct
Mae gennym ni ystod o fuddiannau a fydd ar gael i chi pan fyddwch chi’n dechrau gweithio efo ni.
Gellir gweld y rhan fwyaf o’r rhain ar ein gwefan bwrpasol yn www.dccrewardsdirect.co.uk (gwefan allanol).
Mae buddiannau ychwanegol hefyd ar gael ar ein gwefan.
Cyflog
Rydym ni wedi datblygu strwythur tâl a graddfeydd i sicrhau bod pawb a gyflogir gan y cyngor yn cael eu cydnabod a'u gwobrwyo am y cyfraniad maen nhw'n ei wneud.
Cewch eich talu bob mis yn uniongyrchol i gyfrif banc dynodedig.
Gwyliau Blynyddol
Dylid cyfrifo gwyliau blynyddol ar ddechrau pob blwyddyn wyliau a phob tro y ceir newid mewn patrwm gweithio neu nifer yr oriau. Mae blwyddyn wyliau pob gweithiwr yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf mis eu geni.
Gwyliau a phresenoldeb.
Lles yn y Gweithle
Mae'ch lles yn y gweithle yn hanfodol i’ch helpu chi gyflawni eich llawn botensial.
I'ch helpu chi gadw'n iach ac i'ch cefnogi yn y gwaith, mae'r cyngor yn cynnig amrywiaeth o fuddion, gwasanaethau a chyfleusterau gan gynnwys gweithio hyblyg.
Iechyd a lles cyflogeion.