Dysgu Cymraeg Gwaith gyda thiwtor
Bydd y cyrsiau dwys Dysgu Cymraeg Gwaith yn helpu eich gallu i ddefnyddio Cymraeg a’ch helpu i weithio’n ddwyieithog. Mae lefelau cwrs gwahanol ar gael:
Lefel 1: mynediad
Cyrsiau i ddechreuwyr gyda phwyslais ar siarad Cymraeg.
Lefel 2: sylfaen
Cyfle i ddysgwyr gryfhau eu sgiliau siarad.
Lefel 3:: canolradd
Mae mwy o sgiliau ysgrifennu, darllen a gwrando’n cael eu cyflwyno yn y lefel hon – ond mae’r pwyslais yn dal i fod ar siarad Cymraeg.
Lefel 4: uwch
Mae cyrsiau’n helpu dysgwyr i wella eu sgiliau ysgrifennu, ond eto mae’r prif bwyslais ar gryfhau sgiliau siarad.
Lefel 5: hyfedredd
Mae cyrsiau ar gael i ddysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg rhugl sydd eisiau cryfhau eu sgiliau siarad ac ysgrifennu.
Mae yna ymrwymiad amser i fynychu’r cyrsiau hyn sydd gyfystyr â 120 awr y flwyddyn (4 awr yr wythnos), ac yna arholiad. Mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich rheolwr i fynychu, ac mae’n rhaid i chi gadw at y cytundeb dysgu. Mae’r cyrsiau rhwng staff cynghorau sir y gogledd ddwyrain ac mae’n rhaid cael cyfanswm isafswm o 8 aelod o staff rhwng y cynghorau i sicrhau fod y cyrsiau’n hyfyw ac yn rhedeg: Dysgu Cymraeg: dod o hyd i gwrs (gwefan allanol). Ddim yn siŵr pa gwrs sy’n addas ar eich cyfer? Cysylltwch gyda HRdirect@denbighshire.gov.uk i drafod.
Os ydych chi’n gweithio ym maes gwasanaethau gofal efallai y bydd yna gyrsiau eraill ar gael.