Cefnogi dysgwyr Cymraeg

Rydym eisiau cefnogi gweithwyr ar eu taith iaith er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. Rydym yn annog gweithwyr i ymarfer, ac rydym yn trefnu cefnogaeth anffurfiol amrywiol a chyfleoedd trwy gydol o flwyddyn. Cadwch lygad amdanynt trwy fynd i dudalen Cymraeg yn y Gwaith (Linc). Fel arall gallwch gysylltu â Manon Celyn, Swyddog Iaith Gymraeg ar 01824 708040, e-bost manon.celyn@denbighshire.gov.uk

Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys:

  • sesiynau 'paned a sgwrs' amser cinio
  • côr Cymraeg
  • Eisteddfod
  • grwpiau sgwrsio

Cyfleoedd eraill i ymarfer

Teledu a radio

Mae hi’n bosibl ymarfer sgiliau gwrando a deall trwy wylio a gwrando ar raglenni Cymraeg. Mae Dal Ati (gwefan allanol) yn wasanaeth arbennig ar S4C i ddysgwyr lefel Canolradd ac Uwch. Mae’n cynnwys gwybodaeth, geirfa, clipiau ac ati i roi hyder a mwynhad wrth i ddysgwyr ddatblygu, neu www.Radio Cymru (gwefan allanol), neu drwy BBC iPlayer (gwefan allanol).

Say Something in Welsh

Cwrs sydd yn canolbwyntio ar helpu pobl i siarad a deall Cymraeg ydi Say Something in Welsh (gwefan allanol). Mae’n osgoi'r rheolau gramadegol cymhleth ac nid oes rhaid darllen ac ysgrifennu. Mae’r cwrs yn darparu ffeiliau MP3 i'w lawr lwytho am ddim. Mae’r cwrs cyntaf (25 gwers), sesiynau ymarfer ac unedau geirfa i gyd ar gael yn rhad ac am ddim.

Duolingo

Mae dysgu gyda Duolingo (gwefan allanol) yn hwyl. Gallwch gael pwyntiau am atebion cywir, rasio yn erbyn y cloc, ac yna symud ymlaen i’r lefel nesaf, a’r cyfan ar gyflymder dysgu y mae’r dysgwr yn ei ddewis. Mae’r gwersi cryno ac effeithiol yma’n ddelfrydol i bobl brysur. Mae pob gwers yn cynnwys heriau siarad, gwrando, cyfieithu ac atebion aml-ddewis.

Apiau Cymraeg

Awgrymiadau ydi’r apiau canlynol y gallech eu defnyddio tra’n dysgu Cymraeg.

Ap: Cwrs Mynediad

I ddechreuwyr. Mae’n sôn am sefyllfaoedd bob dydd ac yn paratoi’r dysgwr i fod yn barod i gyfrannu’n rhugl i sgwrs. Rhoddir sylw arbennig i ynganu er mwyn i’r dysgwr fod yn hyderus fod pobl yn eu deall.

Ap: Cwrs Sylfaen

Y cwrs nesaf i fyny o ddechreuwyr.Yn cyflwyno pynciau megis trafod pethau maent wedi’i wneud, barn, newyddion, gwneud cynlluniau, a chyflwyno patrymau newydd o eirfa.

Ap: Dal Ati

Mae’r ap yma’n cefnogi rhaglen S4C. Mae cynnwys newydd bob wythnos yn cynnwys clipiau fideo a sain, ac ymarferion.

Ap Geiriaduron

Dyma eiriadur Cymraeg > Saesneg a Saesneg > Cymraeg sydd yn gweithio ar-lein hefyd.Mae’n darparu gwybodaeth ar ryw berfenwau a ffurfiau lluosog ac mae’n dehongli treiglo.

Ap Treiglo

Ap defnyddiol sy’n dangos pa lythrennau sy’n newis, neu pa dreiglad i’w ddefnyddio ar ôl geiriau penodol. Defnyddiol iawn i  gael y manylion yn gywir!

YouTube

Llawer o wybodaeth yn Gymraeg am y Gymraeg. Lle da i gychwyn ydi gwylio clipiau o cariad@iaith i glywed am brofiadau pobl enwog yn dysgu Cymraeg ar y rhaglen deledu ar S4C.