Gwybodaeth am rôl y Clerc Pleidleisio.
Teitl y Swydd: Clerc Pleidleisio
Math o swydd: Gweinyddol
Cyfrifoldebau a gweithgareddau allweddol
- Sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu bwrw eu pleidlais yn gyfrinachol, heb ddylanwad ac mewn awyrgylch tawel.
- Gofyn am a gwirio hunaniaeth pleidleiswyr cyn cyflwyno eu papurau pleidleisio iddynt.
- Sicrhau bod etholwyr yn deall y gofynion hunaniaeth newydd ar gyfer pleidleiswyr gan gynnwys yr hyn sy’n cyfrif fel dull adnabod derbyniol.
- Sicrhau bod etholwyr yn gallu cyflwyno eu dull adnabod yn breifat ar gais.
- Cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y Swyddog Llywyddu a / neu’r Swyddog Canlyniadau.
- Sicrhau bod yr holl etholwyr yn cael eu trin â pharch ac yn derbyn yr un profiad ble bynnag y byddant a phryd bynnag y byddant yn pleidleisio.
- Mae’n rhaid i chi sicrhau cyfrinachedd a diogelwch y bleidlais bob amser.
- Delio â’r cyhoedd mewn modd cwrtais a phroffesiynol.
- Cefnogi pleidleiswyr anabl i ddefnyddio unrhyw offer neu ddyfeisiau arbennig.
- Nid oes modd eich cyflogi os ydych chi wedi cyflawni unrhyw ddyletswyddau ar ran unrhyw blaid wleidyddol neu ymgeisydd yn yr etholiad.
Oriau / diwrnodau gofynnol
Hyfforddiant: 1 i 2 awr
Diwrnod y Bleidlais: 6:30am tan 10:30pm (16 awr)
Lleoliad
Bydd y Swyddfa Etholiadol yn ceisio gosod staff i’r gorsafoedd pleidleisio sy'n gyfleus iddynt.
Manylion am yr Unigolyn
Manylion am yr Unigolyn ar gyfer rôl y Clerc Pleidleisio
Meini prawf | Rhinweddau (Hanfodol / Dymunol) |
Gwybodaeth |
Dymunol: Gwybodaeth ymarferol am y broses etholiadol. |
Sgiliau a galluoedd
|
Hanfodol: Gallu cyflawni gwaith yn unol â’r cyfarwyddiadau, hyd yn oed o dan bwysau. Dymunol: Profiad o weithio mewn gorsaf bleidleisio |
Arall |
Hanfodol:
- Gallu aros yn wleidyddol niwtral
- Prydlondeb
- Gallu teithio i’ch gorsaf bleidleisio ar yr adegau gofynnol
Dymunol: Diplomyddiaeth a doethineb wrth weithio gydag aelodau’r cyhoedd.
|
Sut i wneud cais
Gallwch ymgeisio ar-lein – nid ydym yn derbyn CV. I gwblhau’r ffurflen ar-lein byddwch angen cyfeiriad e-bost dilys.
Gwneud cais ar-lein i weithio yn yr Etholiadau