Ffermio a hawliau tramwy cyhoeddus: cnydau ac aredig
Mae hi’n ofyniad cyfreithiol dan Ddeddf Priffyrdd 1980 (gwefan allanol) os ydi cnwd, heblaw am wair, wedi cael ei blannu neu ei hau ar dir sydd â hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi ar ei draws, mae’n rhaid i’r perchennog tir sicrhau bod llinell yr hawliau tramwy cyhoeddus yn cael ei gadw’n glir.
Ni ddylai’r cnwd orchuddio, gorgyffwrdd na hongian dros yr hawliau tramwy cyhoeddus trwy gydol y tymor tyfu. Os oes rhaid aredig llwybr troed neu lwybr ceffylau gan y byddai’n anghyfleus i osgoi gwneud hynny, mae’n rhaid ei adfer, neu fel arall mae’r perchennog tir wedi cyflawni trosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae adfer hawliau tramwy cyhoeddus yn golygu marcio’r llwybr ar y ddaear i’r lled isafswm gofynnol, yn ogystal â gwneud yr arwyneb yn gymharol gyfleus i’r cyhoedd ei ddefnyddio.
Fe ddylid gadael y lled gofynnol heb ei aredig ar lwybrau ymyl cae fel a ganlyn:
- Llwybr troed: 1.5 metr
- Llwybr ceffylau: 3 metr
- Cilffordd gyfyngedig: 3 metr
- Cilffordd: 3 metr
Ar ôl aredig, mae angen adfer y lled gofynnol ar gyfer llwybrau ar draws cae fel a ganlyn:
- Llwybr troed: 1 metr
- Llwybr ceffylau: 2 metr
- Cilffordd gyfyngedig: 3 metr
- Cilffordd: 3 metr