Diolch i chi am eich ymateb i'r adolygiad o derfynau cyflymder 20mya.
Rydym ar hyn o bryd yn gweithredu proses i ystyried eich ceisiadau yn cynnig eithriadau ychwanegol i'r terfyn cyflymder 20mya.
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried a'u hadolygu gan ddefnyddio canllawiau a meini prawf Llywodraeth Cymru.
Rydym yn rhagweld y bydd yr adolygiad hwn wedi ei gwblhau erbyn gwanwyn 2025.
Yn dilyn yr adolygiad, bydd unrhyw benderfyniadau a wneir i newid y terfyn cyflymder ar ein ffyrdd yn cael ei wneud drwy ddilyn y broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig.
Gweler hefyd: Blwyddyn ymlaen: Y camau nesaf ar gyfer 20mya (gwefan Llywodraeth Cymru).
Mae terfynau cyflymder cenedlaethol yn berthnasol i'r rhan fwyaf o'r ffyrdd yn Sir Ddinbych. Oni bai eich bod yn gweld arwyddion sy'n dweud fel arall, y terfynau cyflymder yw:
- 20mya mewn ardal â goleuadau stryd
- 60mya ar ffordd sengl heb oleuadau stryd
- 70mya ar ffordd ddeuol heb oleuadau stryd
Mae terfynau cyflymder gwahanol yn berthnasol i fathau penodol o gerbydau, megis bysus, cerbydau nwyddau trwm a cheir yn tynnu carafannau. Darganfod mwy am derfynau cyflymder (gwefan allanol).
Os ydych yn bryderus am faterion goryrru yn eich ardal chi, cysylltwch â ni ac fe edrychwn ar y mater. Os byddwn yn canfod bod problem goryrru byddwn yn edrych am ffyrdd i’w liniaru.