Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi gwybod i drigolion bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar y gweill ger y Llyn Morol yn y Rhyl.
Er mwyn gwneud y gwaith, bydd y llyn yn cael ei ddraenio ddydd Llun 24 Chwefror am wythnos tra bod archwiliadau perthnasol a gwaith cynnal a chadw cyffredinol blynyddol yn digwydd ar y safle.
Cynlluniwyd bod y gwaith yn cael ei wneud y tu allan i dymor yr haf er mwyn sicrhau’r amhariad lleiaf posibl.
Bydd yr ail-lenwi yn dechrau ar yr wythnos yn dechrau 3 Mawrth, unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’r gwaith sydd ar y gweill ger y Llyn Morol tuag at ddiwedd y mis yn rhan o waith cynnal a chadw blynyddol wedi’i gynllunio.
Hoffem ddiolch i drigolion am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei gwblhau.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Harbwr y Rhyl ar 01824 708400.