Cynhelir digwyddiad gwybodaeth galw heibio yn Rhuthun ar 18 Gorffennaf i roi cyfle i’r cyhoedd ddysgu mwyn am y gwaith cyffrous sy’n mynd i ddigwydd yn Rhuthun a’r cymunedau cyfagos fel rhan o raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.
Ar 19 Ionawr, yr oedd Cyngor Sir Ddinbych yn falch o dderbyn cadarnhad ei fod wedi sicrhau £10.95 miliwn o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd i gefnogi datblygiad 10 prosiect sydd â’r nod o ddiogelu treftadaeth unigryw, lles a chymunedau gwledig Rhuthun. Cefnogwyd y cynigion gan AS yr etholaeth, David Jones, ac aelodau etholedig lleol.
Disgwylir i’r prosiectau hyn gael eu cyflawni erbyn mis Mawrth 2025, ac mae’r gwaith adeiladu’n debygol o ddechrau’n ddiweddarach y flwyddyn nesaf.
Mae 2 prif elfen i raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth unigryw a lles Rhuthun drwy welliannau i’r parth cyhoeddus ac adfywio adeiladau a thirnodau hanesyddol i gynnal hunaniaeth leol, hyrwyddo balchder mewn lle a rhoi hwb i ddelwedd y dref.
Bydd yr ail yn canolbwyntio ar ddiogelu cymunedau gwledig a lles Rhuthun drwy welliannau i safleoedd AHNE Loggerheads a Moel Famau a hybiau cymunedol newydd ym mhentrefi gwledig cyfagos Bryneglwys a Gwyddelwern.
Bydd y Cyngor yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau, a bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd a Chymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni’r 2 brosiect olaf.
Bydd y digwyddiad gwybodaeth yn darparu cyflwyniad i’r 10 prosiect llwyddiannus ac yn rhoi cyfle i siarad gyda Thimau Prosiect am y cynigion. Cynhelir y digwyddiad yng Ngharchar Rhuthun, ac mae gwahoddiad i’r cyhoedd alw heibio unrhyw bryd rhwng 1pm a 7pm.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: ”Bydd rhaglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd yn cyflawni 10 prosiect sydd â’r bwriad o sicrhau bod diwylliant a threftadaeth gyfoethog Rhuthun a’r cymunedau cyfagos yn cael eu diogelu. Edrychwn ymlaen at ddatblygu’r prosiectau hyn hyd nes y byddant yn dwyn ffrwyth, ac rydym yn annog unrhyw un sy’n byw yn yr ardal i ddod i’r digwyddiad i ganfod mwy am y datblygiadau cyffrous hyn.”
Mae mwy o wybodaeth am raglen Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.