Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bydd Cyngor Sir Ddinbych, mewn partneriaeth gyda Balfour Beatty, yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth yng Nghanolfan Ieuenctid y Rhyl, a fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld dyluniad y Parc Drifft newydd yn y Rhyl.

Cynhelir y sesiynau ar 30 Medi ac 1 Hydref, a byddant ar agor i’r cyhoedd rhwng 1pm a 7pm, gan ganiatáu slot amser hyblyg i rieni a phlant.

Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i’r tîm gyflwyno’r dyluniad arfaethedig a ellir ei ddefnyddio ar gyfer Man Chware newydd Parc Drifft.

Bydd y tîm yn gofyn i breswylwyr a busnesau lleol sy’n mynychu am eu barn a’u hawgrymiadau ar y dyluniad, a fyddai yn eu tro, yn helpu i nodi’r dyluniad terfynol wrth symud ymlaen.

Os nad oes modd i breswylwyr fynychu un o’r ddwy sesiwn, gellir canfod a llenwi ffurflen ar-lein ar wefan Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl.

Pan fydd y flwyddyn academaidd yn ailgychwyn, cynhelir ymgysylltiad pellach gydag ysgolion lleol mewn perthynas â dyluniad y parc.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym yn falch iawn fod Cynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi cyrraedd y cam lle rydym yn edrych ar ailosod Parc Drifft, sydd wedi’i leoli ar bromenâd y Rhyl.

Bydd y sesiynau hyn gyda phreswylwyr a busnesau yn caniatáu i’r tîm glywed adborth a syniadau gan y gymuned leol.

Rydym yn deall fod gwaith hanfodol ar Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol y Rhyl wedi cael effaith ar argaeledd mannau chwarae ar hyd y promenâd, serch hynny, mae’r gwaith yn hanfodol er mwyn sicrhau bod arfordir y Rhyl wedi’i ddiogelu’n llwyr rhag digwyddiadau o lifogi. Ailosod y parc oedd y cynllun o hyd, ac rwy’n falch fod hyn ar y gweill erbyn hyn.

Rydw i’n edrych ymlaen at glywed barn y cyhoedd ar ddyluniad y parc, sy’n cael ei nodi gan y bobl leol fydd yn ei ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.”


Cyhoeddwyd ar: 31 Gorffennaf 2024