Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn arsylwi’r trefniadau Gŵyl y Banc cenedlaethol ddydd Llun, 19eg Medi - diwrnod Angladd Gwladol Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II - fel arwydd o barch.
Mae hyn yn golygu y bydd mwyafrif o wasanaethau'r Cyngor ar gau ar y dydd Llun, gan ail-agor fel arfer ddydd Mawrth, 20fed Medi.
Adeiladau: Bydd pob adeilad cyhoeddus, gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, siopau un alwad a chanolfannau ailgylchu ar gau, yn ogystal â chyfleusterau a weithredir gan Hamdden Sir Ddinbych Cyf.
Gwasanaeth Cefn Gwlad: Bydd Parciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau ar agor fel arfer. Fodd bynnag, bydd y Ganolfan Cefn Gwlad yn Loggerheads a'r Cwt Bugeiliaid ym Moel Famau ar gau. Bydd tiroedd Plas Newydd, Llangollen ar agor ond bydd y Tŷ a’r Ystafelloedd Te ar gau. Bydd y ciosg ym Mharc Glan yr Afon yn Llangollen hefyd ar gau.
Casglu gwastraff a sbwriel: Bydd casgliadau o gartrefi ddydd Llun yn dechrau'n gynt na'r arfer tua 5.30am. Gofynnir i breswylwyr wneud yn siŵr bod sbwriel yn cael ei gyflwyno erbyn nos Sul ar gyfer dechrau cynnar ddydd Llun. Bydd y Cyngor yn casglu cymaint o finiau â phosibl cyn rhoi’r gorau i’r gwaith cyn i’r angladd gychwyn, fel arwydd o barch.
Bydd unrhyw finiau heb eu casglu ddydd Llun yn cael eu codi dros y dyddiau canlynol, felly gofynnir i drigolion adael eu cynwysyddion allan mewn man diogel nes eu bod wedi cael eu gwagio.
Bydd casgliadau sydd i fod i ddigwydd ddydd Mawrth, 20 Medi hyd at ddydd Gwener, 23 Medi yn parhau fel arfer
Gwaith priffyrdd: Bydd yr holl waith priffyrdd (ac eithrio unrhyw waith brys) yn cael ei atal ddydd Llun.
Trafnidiaeth Gyhoeddus: Bydd bysus yn gweithredu Gwasanaeth Dydd Sul/Gŵyl y Banc. Mae amserlenni ar gael ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/parcio-ffyrdd-a-theithio
Gwasanaethau gofal: Bydd gwasanaethau gofal hanfodol yn parhau i gael eu darparu gan y Cyngor a'i bartneriaid.
Gwasanaethau Cwsmer: Bydd prif linell ffôn y Cyngor: 01824 706000 ar gau ar Ŵyl y Banc.
Mewn achosion neu alwadau brys yn unig, dylai pobl ffonio
Gwasanaethau Cymdeithasol: 0345 053 3116
Pob gwasanaeth arall: 0300 123 30 68
Gall pobl gyrchu gwybodaeth ar wefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk
Hoffai'r Cyngor ddiolch i bobl ymlaen llaw am eu cydweithrediad a'u dealltwriaeth dros gau ar gyfer Gŵyl y Banc.