Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer y sir.
Cytunodd yr aelodau Cabinet i gefnogi’r cynllun mewn cyfarfod diweddar a drefnwyd gan Arup, Yr Ymddiriedolaeth Garbon ac Afallen a thrwy ymgysylltiad gyda budd-ddeiliaid ers Ebrill 2023.
Ar ran Llywodraeth Cymru, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn rheoli contract gydag ymgynghorwyr sy’n datblygu’r cynllun ar gyfer Sir Ddinbych a siroedd eraill y gogledd.
Mae’r Cynllun Ynni Ardal Leol yn gynllun cyfannol, yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n amlinellu graddfa’r newid a chyfle i ddatgarboneiddio system ynni lleol Sir Ddinbych.
Defnyddiwyd gweithdai i ddod â’r holl fudd-ddeiliaid ynghyd er mwyn trafod system ynni lleol presennol y sir, archwilio beth allai system ynni lleol edrych yn y dyfodol a sut all y Cyngor, y sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector gydweithio i ddylanwadu a darparu’r hyn sydd ei angen ar gyfer system ynni wedi’i ddatgarboneiddio.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae gennym oll ran i’w chwarae i siapio trosglwyddiad Sir Ddinbych a Chymru i fod Sero Net, ac fel Cyngor rydym yn deall pa mor bwysig yw i ni wneud hyn mewn modd sy’n diogelu a chefnogi ein cymunedau mwyaf diamddiffyn, a darparu buddion ychwanegol, megis gwell iechyd a chyfleoedd cyflogaeth ar draws y sir.
“Mae cael Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer Sir Ddinbych yn cyflwyno ein safbwynt cynllunio ynni lleol i gynllun isadeiledd ynni rhanbarthol a chenedlaethol a wneir gan eraill, ac yn sicrhau bod ein blaenoriaethau lleol yn aros wrth galon y trosglwyddiad ynni.”
Bydd y Cynllun Ynni Ardal Leol yn helpu:
- i benderfynu pa gynnyrch, partneriaethau neu wasanaethau a ellir eu cynnig a’u darparu mewn ardal leol
- i amlygu ardaloedd gyda photensial sylweddol i ddatblygwyr
- i helpu paratoi sefydliadau yn well ar gyfer cyfleoedd cyllido cyhoeddus,
- i lywio barn a phenderfyniadau yn rhanbarthol, cyflawni trosglwyddiad cost effeithiol neu gryfhau’r achos ar gyfer newid polisi sydd ei angen ar lefel Llywodraeth y DU.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mellor: “Rydym wedi ein cymell i barhau i yrru Sero Net ar lefel leol ac rydym yn cydnabod ein rôl fel cynllunydd a chydlynydd, i ysgogi eraill i wneud yr un peth.
“Mae’n bwysig ein bod ni fel Cyngor yn gosod nodau i yrru dyfodol mwy gwyrdd. Fodd bynnag, mae ein dylanwad dros y system ynni yn gyfyngedig, ac ni allwn ddarparu’r cynllun hwn heb fewnbwn gan eraill yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn gweithio gydag eraill yng Ngogledd Cymru i ddarparu’r cynlluniau hyn a byddwn yn llywio’r rhaglen gyda’n gilydd.”