Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo dyfarnu’r contract i weithredu Marchnad y Frenhines yn y Rhyl i Mikhail Hotel & Leisure Group. Bydd Marchnad y Frenhines yn gatalydd ar gyfer adfywio canol tref y Rhyl a bydd yn darparu neuadd farchnad gymysg a fydd yn cynnwys casgliad o lefydd bwyta artisan, gofodau manwerthu a gofod digwyddiadau.
Mae’r datblygiad yn cynnwys 16 uned bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr, gofod digwyddiadau hyblyg mawr, a gofod awyr agored ar gyfer cynnal digwyddiadau, marchnadoedd neu rywle i eistedd.
Yn dilyn proses dendro fanwl a chystadleuol, mae’r Cabinet wedi penderfynu y dylid dyfarnu’r contract i Mikhail Hotel & Leisure Group fod yn weithredwr ar gyfer yr eiddo. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Mikhail Hotel & Leisure Group ar gytuno a llofnodi’r contract er mwyn bod yn weithredwr Marchnad y Frenhines.
Dechreuodd gwaith adeiladu ar y safle ym mis Awst y llynedd, ar ôl i gwmni Wynne Construction o Fodelwyddan gael eu penodi gan y Cyngor i wneud gwaith dylunio ac adeiladu.
Mae’r gwaith bron wedi’i gwblhau, a bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo gan Wynne Construction ar 17 Gorffennaf.
Bydd y Cyngor yn gweithio gyda Mikhail Hotel & Leisure Group i gyflawni eu gweledigaeth ar gyfer y tu mewn i’r Farchnad. Gan gydweithio, bydd y bar, y ciosgau bwyd poeth a chiosgau’r farchnad yn cael eu gosod. Bydd strategaeth a dyddiad targed ar gyfer agor y cyfleuster yn cael eu trafod a’u cytuno gyda’r gweithredwr hefyd. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda’r Mikhail Group i adnabod a sicrhau tenantiaid ar gyfer yr unedau hefyd.
Mae prosiectau mawr diweddar yn yr ardal wedi denu buddsoddiad sector cyhoeddus a phreifat gwerth sawl miliwn yn cynnwys:
- Adnewyddu Theatr y Pafiliwn a chreu Bwyty ‘1891’
- Dau westy cenedlaethol
- Gofod addas i fentrau newydd gydweithio
- Parc Dŵr a Ninja Tag yn SC2
- Pont y Ddraig newydd a gwelliannau i’r Harbwr
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym yn ymrwymedig i ddatblygiad hirdymor y Rhyl, ac mae’r farchnad newydd yn rhan annatod o’r weledigaeth gyffredinol hon. Bydd hyn yn cynnig sawl cyfle newydd am swyddi a bydd yn cynnig busnesau manwerthu unigryw i breswylwyr Sir Ddinbych yn ogystal ag ymwelwyr sy’n dod i’r Rhyl o bell.
Mae Marchnad y Frenhines wedi bod yn rhan allweddol o dref y Rhyl ers 1902 ac mae wedi’i defnyddio mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd. Mae statws sentimental i’r adeilad, a gaiff ei wella trwy ailddatblygu’r safle hanesyddol hwn.
Bu buddsoddiad £65 miliwn er mwyn adfywio’r Rhyl i breswylwyr a busnesau fel ei gilydd, sy’n canolbwyntio ar hamdden, masnach a phrosiectau cymunedol. Mae Marchnad y Frenhines yn gam arall i’r datblygiadau hyn, a fydd yn cynnig lle newydd a chyffrous i bobl y Rhyl, a Sir Ddinbych gyfan.”
Dywedodd Andrew Mikhail, Cadeirydd Mikhail Hotel & Leisure Group:
“Rwyf wrth fy modd bod Mikhail Hotel & Leisure Group wedi’i enwi fel gweithredwr Marchnad y Frenhines yn y Rhyl. Rydym ni’n benderfynol o ddarparu rhagoriaeth ym mhob agwedd ar Farchnad y Frenhines.
Rydym wedi dangos ein gallu i greu cyrchfannau sy’n ffynnu, ac rydym yn dechrau ar bennod newydd o drawsnewid y lleoliad yn ganolbwynt bywiog o hamdden, lletygarwch a chymuned.
Gydag angerdd, arloesedd ac ymrwymiad i brofiadau arbennig, byddwn yn ceisio rhagori ar ddisgwyliadau a dod â marchnad sy’n dangos hanfod ysbryd unigryw’r Rhyl yn fyw. Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau llwyddiant arbennig a gadael etifeddiaeth barhaus am genedlaethau i ddod.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/cymunedau-a-byw/adfywio/y-rhyl/adeiladaur-frenhines/adeiladaur-frenhines.aspx