Mae’r gwaith dymchwel yn Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl wedi’i atal dros dro wrth i’r contractwyr weithio â pheirianwyr strwythurol er mwyn penderfynu sut i sicrhau y gellir dymchwel yr adeiladau sydd ar ôl yn ddiogel.
Penododd Cyngor Sir Ddinbych y contractwyr Wye Valley Demolition ym mis Ionawr ac ers hynny mae’r gwaith wedi dod yn ei flaen yn dda ac wedi mynd heibio hanner ffordd. Hyd yn hyn dymchwelwyd 57-61 Heol y Frenhines, hen westy’r Savoy, y Bistro a’r garejys, ac yn y cam nesaf bwriedir dymchwel Neuadd y Farchnad, hen glwb nos Fusion, Gwesty’r Queen’s ac adeiladau eraill.
Mae ailddatblygu Adeiladau’r Frenhines yn brosiect catalydd allweddol fel rhan o Raglen Adfywio’r Cyngor ar gyfer y Rhyl, ac fe’i hariennir yn rhannol drwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi:
“Mae’r gwaith dymchwel yn dod yn ei flaen yn dda, a mwy na hanner yr adeiladau ar y safle wedi dod i lawr erbyn hyn. Wrth gymryd egwyl fer gallwn sicrhau bod popeth yn ddiogel i’r cyhoedd a’r gweithwyr yn Theatr y Frenhines a’r arcêd sydd wrthi’n cael gwared ar yr asbestos y daethpwyd o hyd iddo yn yr adeiladau hynny.
‘Mae’n braf iawn gweld prosiect mawr fel hwn yn mynd yn ei flaen yn y Rhyl, a bydd y neuadd farchnad a’r man digwyddiadau newydd ar y safle’n chwarae rhan hollbwysig wrth adfywio canol tref y Rhyl a’r economi yn Sir Ddinbych.
‘Mae’r prosiect eisoes yn cynnig cyfleoedd i bobl yn y gymuned ddechrau gyrfaoedd. Hyd yn hyn mae pedwar o brentisiaethau chwe mis wedi dechrau fel rhan o’r contract gwaith dymchwel, a thrwy’r prosiect Sir Ddinbych yn Gweithio mae’r Cyngor wedi cynnig profiad gwaith i nifer o bobl leol.”
Yn ddiweddar gosodwyd argraffiadau arlunydd o amgylch y safle er mwyn i bobl fedru gweld y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer defnydd cymysg o’r safle, gan gynnwys fflatiau a mwy o ofod masnachu yn ogystal â neuadd marchnad a man digwyddiadau newydd.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl