Mae Nantclwyd y Dre wedi’i gadarnhau’n “Atyniad i Ymwelwyr â Sicrwydd Ansawdd” ac ennill statws Trysor Cudd yn sgil asesiad gan Croeso Cymru.
Mae’r tŷ hanesyddol yn cynnig cyfle unigryw i gloddio i fwy na phum can mlynedd o hanes o’r Canol Oesoedd i’r ugeinfed ganrif. Y tu ôl i’r muriau mae gerddi helaeth “fel pin mewn papur, gyda gwelyau o flodau hardd a lleiniau ble mae ffrwythau a llysiau’n tyfu”, sy’n lle tawel i ymlacio ynghanol tref Rhuthun.
Mae Nantclwyd y Dre hefyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld yr ystlumod pedol lleiaf ar y glwyd fagu yn nho’r tŷ, diolch i’r ‘BatCam’!
Mae’r tŷ eisoes wedi ennill y wobr Trysor Cudd gan Croeso Cymru yn 2017, 2018 a 2022. Dywedodd yr asesydd eleni bod yr atyniad yn “rhoi croeso ardderchog ac mae’r gofal am gwsmeriaid a’r wybodaeth a ddarperir o’r radd flaenaf” a’i fod “yn llawn haeddu ennill y wobr eto eleni”.
Meddai Kate Thomson, Rheolwr Nantclwyd y Dre: “Rydyn ni’n arbennig o falch o gael yr achrediad ac ennill y wobr Trysor Cudd gan Croeso Cymru. Mae ein staff yn gweithio’n ddiwyd dros ben i fod o gymorth i bobl sy’n ymweld â’r tŷ ac mae’n braf bod Croeso Cymru wedi cydnabod hynny yn yr asesiad.
“Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan bobl Rhuthun, sy’n ein hysbrydoli i rannu’r tŷ bendigedig hwn a’i holl hanes â phobl o bob oed sy’n dod drwy’r drws.”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych: “Mae hyn yn newyddion ardderchog i Nantclwyd y Dre, mae’n atyniad arbennig i ymwelwyr yn Rhuthun ac mae’r tîm o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed iawn. Mae’n drysor cudd rydym oll yn falch ohono, ac eisiau annog pawb i groesi’r trothwy a chael profiad o’i hanes cyfoethog.”