Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llyfrau

Yn y flwyddyn newydd hon, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn herio eu darllenwyr i ddarllen 25 llyfr yn 2025.

Bob haf, mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn cynnal Her Ddarllen yr Haf i blant, ond eleni, mae’r tîm Llyfrgelloedd yn herio oedolion i ddarllen mwy hefyd.

Fe fydd ‘Her 25 Llyfr’ yn annog darllenwyr i ddarllen llyfrau o 25 genre a thema gwahanol ar ffurf bingo llyfrau. Mae’r themâu'n cynnwys nofelau sydd wedi ennill gwobrau, llyfrau sydd wedi’u seilio mewn gwledydd eraill a llyfrau gan awdur Cymreig. Gellir casglu’r taflenni bingo o Lyfrgelloedd lleol a bydd darllenwyr yn ennill gwobrau ar ôl darllen 10, 20 a 25 llyfr, mae cymhellion yn cynnwys nod tudalen a bag siopa y llyfrgell (cymhellion ar gael tra bod digon o stoc).

Gellir darllen y llyfrau mewn amrywiaeth o fformatau, yn cynnwys llyfrau ffisegol neu lyfrau llafar wedi’u benthyg o’r Llyfrgell, neu e-Lyfrau neu e-LyfrauLlafar sydd wedi’u lawrlwytho am ddim drwy ap Borrowbox. Mae yna dystiolaeth i ddangos bod darllen am cyn lleied â chwe munud y diwrnod yn gallu lleihau lefelau straen o hyd at 68%. Gall darllen helpu rhywun i gael noson well o gwsg, a lleihau tensiwn.

Gall darllenwyr gofrestru yn eu Llyfrgell leol.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych:

“Mae’r her ddarllen yma’n ffordd berffaith i breswylwyr ddod yn ôl i’r arfer o ddarllen llyfrau.

Gall preswylwyr gofrestru yn eu Llyfrgell leol, a herio’u hunain i ganfod awduron a genres gwahanol trwy gydol y flwyddyn.”


Cyhoeddwyd ar: 16 Ionawr 2025