Radon yn y cartref ac yn y gweithle
Nwy ymbelydrol di-liw, diarogl ydi radon a ffurfiwyd gan bydredd symiau bychan o wraniwm sy’n digwydd yn naturiol mewn creigiau a phriddoedd.
Mae llawer o adeiladau’n cynnwys radon ond bydd y lefelau fel rheol yn isel ac mae’r risg i iechyd yn isel.
Sut allaf i wirio a ydw i mewn perygl?
Mae’r ardaloedd tywyllach ar fap radon y DU (gwefan allanol) yn dangos lle mae’r lefelau’n fwy tebygol o fod yn uwch. Ni fydd pob adeilad, hyd yn oed yn yr ardaloedd tywyllaf, â lefelau uchel ond gallwch archebu pecyn profi i fesur lefel y nwy radon yn eich gweithle (gwefan allanol). Mae’r prawf yn saff ac yn syml i’w ddefnyddio ac fe gaiff y canlyniadau eu trin yn gyfrinachol.
Beth i’w wneud os oes yna lefelau uchel o radon yn eich cartref
Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd wedi cynghori y dylid gostwng radon dan do sy’n uwch na lefel 200 becquerel y fedr giwbig (Bq m-3).
Os byddwch yn mesur lefelau uwch o radon yn eich cartref, yna dylech gymryd camau i ostwng y lefelau hyn; weithiau gallai hynny olygu selio o gwmpas agoriadau atig neu agoriadau mawr mewn lloriau ac awyriad ychwanegol ar gyfer y gofod byw.
Sut i leihau lefelau radon (gwefan allanol)
Beth i’w wneud os bydd eich gweithle â lefelau radon uchel
Os bydd lefel radon mewn unrhyw ran o’ch gweithle dros 400 Becquerels y fedr giwbig (Bq m-3), mae’n rhaid i’r cyflogwr gymryd camau ac mae’n rhaid hysbysu staff o’u risg ac enwebu aelod cyfrifol o’r staff i arolygu cynnydd gyda mesurau diogelu.
Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn cymeradwyo cynllun pum pwynt i gyflogwyr sydd mewn Ardaloedd a Effeithir gan radon:
- Mesur Profi am radon ar y llawr gwaelod ac isloriau a feddiennir
- Gwyliadwriaeth Parhau i fonitro nes bydd camau adferol wedi eu cwblhau
- Asesiad risg Gosod blaenoriaethau ar gyfer gweithredu’n seiliedig ar lefelau radon
- Lliniaru Cwblhau camau adferol o fewn chwe mis
- Cynnal Cynnal profion cyfnodol a gwiriadau arferol
Sut i leihau lefelau radon (gwefan allanol)