Mae yn erbyn y gyfraith i ganiatáu i'ch ci faeddu mewn mannau cyhoeddus ac yna peidio â’i lanhau a chael gwared arno'n briodol.
Mae mannau cyhoeddus yn cynnwys
- ffyrdd
- llwybrau troed
- meysydd parcio
- canolfannau siopa
- gerddi pobl eraill
Os nad ydych yn glanhau ar ôl eich ci gallech wynebu dirwy o £100 o leiaf. Y person sy’n gyfrifol am y ci adeg y baeddu sy’n atebol i dalu'r ddirwy.
Gallwch dalu drwy ffonio'r rhif a ddangosir ar yr hysbysiad cosb benodedig, neu mewn unrhyw Siop Un Alwad. Os na fyddwch yn talu'r ddirwy o fewn 28 diwrnod gallech gael cofnod troseddol.
I ddweud wrthym am broblem baw cŵn, rhowch wybod ar-lein neu ffoniwch ni am ddim ar 0800 2300 234.