O dan Ran 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003, rydym yn delio â chwynion lle mae gwrychoedd uchel yn:
- gweithredu i ryw raddau fel rhwystr i oleuni neu olygfeydd
- yn cynnwys 2 neu fwy o goed neu lwyni
- bythwyrdd neu led fythwyrdd yn bennaf
- mwy na 2 fetr o uchder
Ni allwn ymchwilio i lwyni neu goed unigol, na lle mae gwreiddiau gwrychoedd yn achosi difrod.
Ffi
Y ffi i ni ymchwilio i gŵyn am wrych uchel yw £240. Nid oes modd ad-dalu’r ffi i chi.
Gwneud cwyn am wrych uchel
Cyn gwneud cwyn am wrych uchel, cofiwch:
- rydym yn argymell eich bod yn ceisio datrys y broblem gyda'r perchennog yn gyntaf
- gallwn wrthod cwyn yr ydym yn ei hystyried yn flinderus neu os na chymerwyd pob cam rhesymol i ddatrys y mater cyn gwneud cwyn
- ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion dienw
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ymchwiliad gwrych uchel os hoffech wneud cwyn am wrych uchel.
Ffurflen gais am ymchwiliad i wrych uchel (PDF, 223KB)
Beth sy'n digwydd ar ôl gwneud cwyn?
Ar ôl derbyn ffurflen gais ymchwiliad gwrych uchel, byddwn yn penderfynu a fyddwn yn ymchwilio i'r gŵyn ai peidio.
Pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud, byddwn yn hysbysu'r achwynydd a pherchennog y gwrych.
Ymchwilio i gŵyn
Os byddwn yn penderfynu ymchwilio i gŵyn, byddwn yn gweithio allan a yw uchder y gwrych yn achosi colled golau i eiddo.
Mae Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi pŵer cyfreithiol i ni fynd ar dir i ymchwilio i gŵyn gwrych uchel.
Ni fydd terfyn amser o ran pryd y bydd yn rhaid inni wneud penderfyniad. Bydd ein penderfyniad, ynghyd â'r rhesymau drosto, yn cael eu hanfon at yr achwynydd a pherchennog y gwrych.
Hysbysiad adfer
Os oes angen, byddwn yn rhoi ‘hysbysiad adfer’ i berchennog y gwrych. Bydd hwn fel arfer yn nodi pa gamau adferol sydd eu hangen a’r cosbau y bydd perchennog y gwrych yn ei gael os bydd yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.
Daw'r hysbysiad yn arwystl ar yr eiddo ac mae rhwymedigaethau cyfreithiol o dan rybudd o'r fath yn cael eu trosglwyddo i unrhyw berchnogion dilynol.
Apeliadau
Rhaid i unrhyw apêl gan berchennog y gwrych yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud yn ysgrifenedig a’i anfon at Lywodraeth Cymru o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad.
Gall yr achwynydd apelio i Lywodraeth Cymru os byddwn yn penderfynu peidio â rhoi hysbysiad adfer neu os byddwn yn cyhoeddi ac yna’n tynnu hysbysiad yn ôl.
Gall y naill barti neu'r llall apelio ar y sail bod y gofynion naill ai'n ormod neu ddim yn ddigon.
Sut i apelio
Os hoffech apelio, bydd angen i chi lenwi ffurflen apêl Gwrychoedd Uchel.
Ewch i llyw.cymru i lawrlwytho ffurflen apêl (gwefan allanol)