Tîm Integredig Teuluoedd Lleol
Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth yn cynnwys staff o Gonwy, Sir Ddinbych ac Ymddiriedolaeth Ysbyty Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’r tîm yn helpu teuluoedd i reoli ymddygiad heriol plant a phobl Ifanc (hyd at 18 oed) yn y cartref.

Gyda pha bethau y gallwn helpu?
Mae’r tîm yn darparu cymorth arbenigol ar ymyrraeth gynnar lle mae:
- arddangosfeydd ymddygiad plentyn neu berson ifanc:
- ymddygiad ymosodol yn gorfforol
- ymddygiad ymosodol ar lafar
- dinistrio eiddo
- ymddygiad hunan niweidio
- ymddygiad sy'n tarfu ar eraill
- mae perthynas y teulu wedi ei haflonyddu yn y cartref oherwydd ymddygiad sydd yn herio
- nid yw’r ymddygiad yn digwydd yng nghyd-destun anableddau dysgu neu dydi'r plentyn neu'r person ifanc ddim agored i’r gwasanaeth anabledd dysgu
- nid oes tystiolaeth o oedi mewn datblygiad sylweddol mewn 2 faes neu fwy
- nid yw’r brif broblem yn cael ei hegluro gan anhwylder iechyd meddwl neu mae’r plentyn neu'r person ifanc yn agored i CAMHS
- nid yw’r plentyn yn agored neu’n gweithio gyda Gwasanaethau Niwroddatblygiad (gallwn dderbyn atgyfeiriadau pan fo’r plentyn ar y rhestr aros)
- nid yw'r plentyn neu'r person ifanc ar agor i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn gweithio gyda'i dîm therapiwtig
Sut i wneud atgyfeiriad
Nid yw gwneud atgyfeiriad i'r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol ar gael ar hyn o bryd.
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni os hoffech fwy o wybodaeth am y Tîm Integredig Teuluoedd Lleol.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r Tîm Integredig Teuluoedd Lleol yn dîm aml-asiantaeth, a ariennir gan Gydweithfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gogledd Cymru.

