Atal codymau

Mae yna wasanaeth atal codymau yng ngogledd Cymru i unrhyw un dros 65 oed sydd wedi cael codwm neu'n ofni cael codwm.

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi cael codwm, neu’n ofni cael codwm, cysylltwch ag Un Pwynt Mynediad i ganfod a all y gwasanaeth atal codymau eich helpu.

Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio at y gwasanaeth, bydd aelod o'r tîm yn cynnal asesiad risg codymau personol efo chi.  Byddan nhw wedyn yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu i leihau eich risg o gael codwm. Fe allai hyn gynnwys:

  • Dosbarthiadau ymarfer corff: mae tystiolaeth gref y gall y rhain helpu i wella cydbwysedd, cryfder a hyder, ac mae ganddyn nhw fanteision cymdeithasol cadarnhaol hefyd.
  • Cynllun ffisiotherapi un-i-un cymunedol a chynllun ymarfer corff yn y cartref.
  • Gweithgareddau eraill yn y gymuned fel tai chi, dosbarthiadau cylched ysgafn Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (gwefan allanol).
  • Asesiadau diogelwch yn y cartref ac addasiadau.
  • Adolygiadau o feddyginiaethau gan feddyg teulu neu fferyllydd.
  • Atgyfeirio at wasanaeth podiatreg neu optometreg.

Mae Rhaglen Atal Codymau Gogledd Cymru (gwefan allanol) yn cael ei chefnogi gan bartneriaid o'r GIG, yr awdurdod lleol a'r trydydd sector yn eich ardal, yn yr ysbyty, yn y gymuned ac mewn cartrefi gofal.

Mwy o wybodaeth am sut i atal codymau:

Os hoffech chi fwy o wybodaeth neu gyngor, gallwch ymweld Phwynt Siarad neu gysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl.