Cymorth i bobl sy'n fyddar neu’n drwm eu clyw
Rydym yn cynnig cymorth i bobl sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.
Cymhorthion Clyw
Os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch clyw a heb gael asesiad am gymhorthion clyw, fe ddylech chi gysylltu â’ch Meddyg Teulu er mwyn datrys unrhyw gyflyrau meddygol a chael eich atgyfeirio i'r Clinig Clyw os bydd hynny’n briodol. Gall y Clinig Clyw eich atgyfeirio'n uniongyrchol atom ni os bydd angen.
Cynnal a chadw cymhorthion clyw
Os ydych chi’n gwisgo cymhorthion clyw, fe ddylech chi fynd â’r rhain i’r Clinig Clyw i’w cynnal a’u cadw bob 6 mis.
Gweld manylion cyswllt y Gwasanaeth Awdioleg yng Ngogledd Cymru (gwefan allanol)
Hunanreoli Cwyr Clustiau
Mae cwyr clustiau yn cael ei gydnabod gan GIG Cymru fel mater iechyd cyffredin. Mae cwyr clustiau yn gallu arwain at anesmwythdra a phoen, neu broblemau â’r clyw.
Gweld canllawiau gan Lywodraeth Cymru ar hunanreoli cwyr clustiau (gwefan allanol)
Cymorth rydym yn ei ddarparu
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o gymorth i bobl sydd â nam ar y synhwyrau gan gynnwys:
Mae gennym wahanol dimau sy’n rhoi cymorth i oedolion, plant a phobl ifanc.
Cefnogaeth i Oedolion:
Am gymorth i oedolion gyda nam ar y synhwyrau (pobl sydd yn 18 ac yn hŷn) cysylltwch a’r Un Pwynt Mynediad:
Cymorth i oedolion
Dylai oedolion (pobl dros 18 oed) sydd angen cymorth gyda nam ar y synhwyrau gysylltu â’r tîm Un Pwynt Mynediad.
Ffoniwch ni ar 0300 4561000 yn ystod yr amseroedd isod:
- Dydd Llun: 9am i 5pm
- Dydd Mawrth: 9am i 5pm
- Dydd Mercher: 9am i 2pm a 3pm i 5pm
- Dydd Iau: 9am i 5pm
- Dydd Gwener: 9am i 5pm
- Dydd Sadwrn: ar gau
- Dydd Sul: ar gau
- Gwyliau Banc: ar gau
Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn).
Cysylltwch â’r tîm Un Pwynt Mynediad ar-lein
Cymorth i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed
I gael cymorth gyda nam ar y synhwyrau i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed, cysylltwch â’r tîm Teuluoedd yn Gyntaf.
Mae cyfarpar arbenigol ar gael i helpu pobl â nam ar y synhwyrau i fod yn annibynnol. Gall rhywfaint o’r cyfarpar gael ei ddarparu fel rhan o’ch asesiad arbenigol neu hyfforddiant adsefydlu.
Mae gennym ni hefyd Ystafell Adnoddau Synhwyraidd sy'n arddangos cyfarpar ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am y lleoedd sy’n gwerthu eitemau arbenigol. Dim ond drwy wneud apwyntiad y gallwch chi ymweld â'r Ystafell Adnoddau.
Sut i gael cymorth gennym ni
Mae nam ar y synhwyrau’n effeithio pobl mewn gwahanol ffyrdd, a’n nod ni yw gweithio gyda chi i'ch helpu i addasu i unrhyw newidiadau emosiynol y gallech chi fod yn eu hwynebu.
Sut i gael cymorth gennym ni