Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2016. Mae'r gyfraith yn rhoi llais i chi yn y gofal a'r gefnogaeth a gewch.
Er mwyn eich cefnogi chi i gyflawni lles, byddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I’ch helpu i wneud hynny, mae gennych fynediad hawdd at wybodaeth a chyngor ynglŷn â beth sydd ar gael yn eich ardal.
Mae gan Ofalwyr â’r un hawl i gael asesiad ar gyfer cymorth, ar gyfer y rhai maent yn gofalu amdanynt, a bydd mwy o bobl â’r hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.
Bydd proses asesu ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i unigolion a bydd yn cael ei chynnal gan ein Tîm Un Pwynt Mynediad. . Bydd cynghorydd yn y tîm yn cael sgwrs gyda chi am eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi oddi wrth eich teulu, ffrindiau a phobl eraill yn y gymuned.
Un Pwynt Mynediad i oedolion yn Sir Ddinbych (PDF, 292KB)
Bydd yr asesiad yn symlach ac yn cael ei wneud gan un person ar ran amrywiaeth o sefydliadau.
Erbyn hyn mae mwy o wasanaethau i atal problemau rhag gwaethygu, felly mae'r cymorth priodol ar gael pan fyddwch ei angen.
Mae pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag camdriniaeth neu esgeulustod hefyd wedi eu cyflwyno.
Beth mae'r Ddeddf yn ei wneud?
Mae’r Ddeddf wedi trawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cymdeithasol eu darparu.
Bydd integreiddio a symleiddio'r gyfraith hefyd yn darparu mwy o gysondeb ac eglurder i:
- bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol;
- eu gofalwyr;
- staff awdurdodau lleol a'u sefydliadau partner
- y llysoedd a'r farnwriaeth.
Mae'r Ddeddf yn hyrwyddo cydraddoldeb, yn gwella ansawdd y gwasanaethau a gwella mynediad i’r wybodaeth y mae pobl yn ei chael. Mae hefyd yn annog ffocws o'r newydd o ran atal ac ymyrryd yn gynnar.
Gallwch gael gwybod mwy am y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ar y wefan Deddfwriaeth (gwefan allanol).
Fideo Gofal Cymdeithasol Cymru: "Mae'r hyn sy'n bwysig i chi yn bwysig i ni, hefyd" (gwefan allanol).