Siarter Gofalwyr Sir Ddinbych
Crëwyd y Siarter trwy ymgynghori ag oedolion a phobl ifanc leol sy’n ofalwyr a Grŵp Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych.
Mae pawb yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi y cyfraniad a wneir gan ofalwyr di-dâl
Hoffem annog sefydliadau ledled Sir Ddinbych i fabwysiadu arferion sy’n ystyriol o ofalwyr a, gyda statws siarter, bydd sefydliadau yn gallu arddangos eu hymrwymiad i gefnogi gofalwyr yn eu busnesau, ysgolion, colegau a chymunedau.
Sicrhau dealltwriaeth a chymorth o'r safon uchaf i bob gofalwr
Ble bynnag y maent ar eu siwrnai ofalu, boed yn ofalwr newydd, wedi bod yn gofalu am rywun ers tro neu ar ôl i’w rôl fel gofalwr ddod i ben.
Ein haddewid i Ofalwyr sy’n Oedolion a Gofalwyr Ifanc
- Yr hawl i gael eich trin â chwrteisi, parch ac urddas.
- Yr hawl i gael asesiad unigol o anghenion y gofalwr sy’n cael eu nodi ar wahân i anghenion y sawl sy’n derbyn y gofal.
- Llais, Dewis a Rheolaeth - Yr hawl i ddweud na.
- Yr hawl i ddisgwyl gwasanaethau sy’n darparu gwybodaeth briodol mewn ffurf ac iaith o’u dewis.
- Yr hawl i gael bywyd annibynnol gyda chefnogaeth ac anogaeth i ymgymryd â’u diddordebau eu hunain.
- Yr hawl i gael gwasanaethau o safon wedi’u haddasu ar eu cyfer, yn agos i’w cartref.
- Gall gofalwyr fod o unrhyw oedran ac maent yn unigolion yn eu rhinwedd eu hunain.
- Cyfle i gael mynediad at addysg a hyfforddiant berthnasol.
- Yr hawl i gael help a chyngor pan fydd y rôl ofalu yn newid neu’n dod i ben.
Gofalwr ifanc
Unigolyn dan 18 oed sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i unigolyn arall.
Mae gwaith ar y gweill i hyrwyddo cydnabyddiaeth i ofalwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a'r gobaith yw y bydd y Siarter Gofalwyr yn helpu i gynyddu cefnogaeth a gwasanaethau i Ofalwyr Ifanc.
Mae’r ffocws ar gydnabod bod Gofalwyr Ifanc yn blant ac yn bobl ifanc yn gyntaf.
- Yr hawl i ddisgwyl i ysgolion, colegau a lleoedd dysgu eraill ddarparu gwybodaeth briodol a hygyrch i alluogi plant a phobl ifanc i gydnabod, deall ac adnabod eu hunain fel rhywun sy’n ymgymryd â rôl Gofalwr Ifanc.
- Yr hawl i ddisgwyl staff hyfforddedig sy’n gallu nodi a deall materion a heriau sy’n wynebu Gofalwyr Ifanc ac, os oes angen, eu helpu i gael gafael ar gefnogaeth briodol.
- Yr hawl i gael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion a chadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau trwy gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu, er mwyn eu galluogi i fyw bywyd annibynnol.
- Yr hawl i ddisgwyl cefnogaeth lawn yn ystod eu haddysg (gan gynnwys eu hiechyd a’u lles cyffredinol, ac nid eu hanghenion addysgol yn unig).
- Cyfle i gael hyfforddiant, addysg, cyfleoedd gwirfoddoli a swyddi.
- Gall Gofalwyr Ifanc sy’n gadael ysgol ddisgwyl derbyn cefnogaeth i gyrraedd eu nodau a chyflawni eu huchelgeisiau gan gynnwys cymorth ac anogaeth i wneud cais i Brifysgol.
Am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr yn Sir Ddinbych, cysylltwch ag Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych trwy ffonio 0300 456 1000 neu anfon e-bost at unpwyntmynediad@sirddinbych.gov.uk.