Asesiad o anghenion gofalwr
Os ydych chi’n gofalu am rywun fe allwch chi dderbyn asesiad o anghenion gofalwr i weld pa gefnogaeth neu wasanaeth sydd arnoch chi angen i’ch helpu chi gyda’ch rôl ofalu.
Bydd asesiad gofalwr yn asesu:
- eich rôl ofalu a sut mae’n effeithio ar eich bywyd a’ch lles
- eich iechyd – problemau corfforol, meddyliol ac emosiynol
- eich teimladau a’ch dewisiadau ynghylch gofalu
- gwaith, astudio, hyfforddiant, hamdden
- perthnasoedd, gweithgareddau cymdeithasol a’ch nodau
- tai
- cynllunio at argyfwng
Pwy sy’n gallu derbyn asesiad o anghenion gofalwr?
Gall unrhyw ofalwr sy’n darparu gofal di-dâl i rywun gydag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol dderbyn asesiad.
Sut i dderbyn asesiad o anghenion gofalwr?
Gofalwyr sy’n oedolion
Os ydych chi’n ofalwr ac yn 18 oed neu hŷn fe allwch chi gysylltu â’r tîm Un Pwynt Mynediad i drefnu asesiad o anghenion gofalwr
Ffoniwch ni ar 0300 4561000 yn ystod yr amseroedd isod:
- Dydd Llun: 9am i 5pm
- Dydd Mawrth: 9am i 5pm
- Dydd Mercher: 9am i 2pm a 3pm i 5pm
- Dydd Iau: 9am i 5pm
- Dydd Gwener: 9am i 5pm
- Dydd Sadwrn: ar gau
- Dydd Sul: ar gau
- Gwyliau Banc: ar gau
Os oes angen i chi siarad â gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd mewn argyfwng tu allan i'r oriau hyn, gallwch ffonio 0345 053 3116 (mae galwadau i’r rhif hwn yn costio 2 geiniog y funud a thâl defnyddio eich cwmni ffôn).
Cysylltwch â’r tîm Un Pwynt Mynediad ar-lein
Gofalwyr ifanc
Gall gofalwyr ifanc (dan 18 oed) dderbyn asesiad o anghenion gofalwr drwy;