Sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn ystod tymor yr ysgol
Pwrpas sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yw bod plant yn cael chwarae, gwneud ffrindiau, a gwneud llanast. Mae’r sesiynau’n rhai ‘mynediad agored’, sy’n golygu bod rhyddid i blant gael mynd a dod.
Mae’r sesiynau hyn yn cael eu harwain gan blant, felly maen nhw’n dewis beth maen nhw eisiau ei wneud, neu pa offer maen nhw’n ei ddefnyddio.
![Plentyn â dwylo blêr](/cy/delweddau/hamdden-a-thwristiaeth/haf-o-hwyl/dwylo-bler.png)
Ar gyfer pwy mae’r sesiynau?
Mae Gadewch i ni Chwarae Allan yn cynnig sesiynau chwarae i blant o 6 i 12 mlwydd oed.
Mae croeso i blant dan 6 oed, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod gydag oedolyn.
Pryd a lle fydd y sesiynau’n digwydd?
Dewiswch un o’r ardaloedd canlynol i weld pryd a lle mae’r sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn digwydd:
Dinbych
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dinbych yn digwydd bob dydd Llun yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn Cae Hywel.
Gwybodaeth am y Lleoliad
Cyfeiriad Cae Hywel yw
Maes Y Goron
Dinbych
LL16 3PY
Parcio
Gallwch barcio yn maes parcio Mount Pleasant
Dyserth
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dyserth yn digwydd bob dydd Iau yn ystod tymor yr ysgol, o 3:15pm i 4:45pm yn Llecyn Gemau Amlddefnydd (MUGA) Dyserth.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan Dyserth yn cael eu darparu mewn partneriaeth gyda Chyngor Cymuned Dyserth.
Gwybodaeth am y lleoliad
Nid oes yna gyfleusterau toiled yn y lleoliad yma.
Cyfeiriad
Cyfeiriad Llecyn Gemau Amlddefnydd Dyserth yw:
Rhodfa Thomas
Dyserth
LL18 6AN
Parcio
Mae’r lleoedd parcio’n brin ger Llecyn Gemau Amlddefnydd Dyserth.
Y Rhyl
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan y Rhyl yn digwydd bob dydd Mawrth yn ystod tymor yr ysgol, o 3:30pm i 5pm yn Ysgol Christchurch.
Gwybodaeth am y lleoliad
Cyfeiriad
Cyfeiriad Ysgol Christchurch yw:
Ernest Street
Y Rhyl
LL18 2DS
Parcio
Ar hyn o bryd nid oes lle i barcio ger Ysgol Christchurch.
Sut i gymryd rhan
Mae’r sesiynau’n rhad ac am ddim i’r plant, ond bydd angen i rieni neu warcheidwaid gofrestru manylion eu plentyn ar gyfer pob ardal yr hoffent i’w plentyn fynychu sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan.
Mae sesiynau Gadewch i ni Chwarae Allan yn gwbl gynhwysol, gallwch adael i ni wybod am unrhyw anghenion wrth gofrestru manylion eich plentyn ar-lein.
Cofrestru manylion eich plentyn
Cyfleusterau ar gyfer plentyn efo Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), rhowch wybod i ni a gallwn wneud y sesiwn yn hygyrch.
Mwy o wybodaeth
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y sesiwn yma, gellwch gysylltu â’r Gwasanaeth Ceidwaid Chwarae.