Cwrdd â’r tîm Ceidwaid Chwarae

Mae ein tîm Ceidwaid Chwarae yn hynod fedrus a phrofiadol ac wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd chwarae diogel i holl blant a phobl ifanc i ddatblygu iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol.

Cydlynydd Chwarae Hygyrch

Mae'r Cydlynydd Chwarae Cynhwysol yn trefnu gweithgareddau chwarae i bob plentyn gael eu cynnal yn adeiladau'r cyngor, parciau, ysgolion a mannau agored yn Sir Ddinbych.

Mae'r Cydlynydd Chwarae Cynhwysol hefyd yn helpu i gynnal y gweithgareddau chwarae.

Ruth

Ruth

Mae gan Ruth 20 mlynedd o brofiad gweithio gyda phlant a phobl ifanc fel hyfforddwr pêl-droed ac mewn Datblygu Chwaraeon.

Mae Ruth yn unigolyn cyfeillgar a brwdfrydig sy’n dod â llawer o egni i’r tîm.


Ceidwaid Chwarae 

Mae Ceidwaid Chwarae yn hwyluso a hyrwyddo cyfleoedd chwarae, a chynnwys pob plentyn beth bynnag yw eu gallu.

Vicky

Vicky

Mae gan Vicky brofiad o weithio gyda phlant o bob oedran a gallu, ar ôl gweithio fel athrawes a hyfforddwraig chwaraeon yn flaenorol.

Mae Vicky yn aelod hyderus o’r tîm sy’n angerddol am weithio gyda phlant.


Ceidwaid Chwarae Cynorthwyol

Mae Ceidwaid Chwarae yn hwyluso a hyrwyddo cyfleoedd chwarae, a chynnwys pob plentyn beth bynnag yw eu gallu.

Jane

Jane

Mae Jane wedi ymuno â’r tîm yn ddiweddar ar ôl treulio amser gartref yn magu ei phlant.

Mae hi bellach yn aelod anhepgor o’r tîm ac mae ei phrofiad gyda’i phlant yn amlwg iawn yn y sesiynau. 


Molly

Molly

Mae Molly wedi bod yn gynorthwyydd ysgol dawns ers nifer o flynyddoedd. Mae hi'n perfformio ochr yn ochr â'r pennaeth, gan ddysgu disgyblion amrywiol o 2 i 10 oed.

Mae Molly yn berson hyderus a chyfeillgar ac mae ganddi angerdd gwirioneddol am weithio gyda phlant.


Olivia

Olivia

Mae gan Olivia brofiad o weithio gyda phlant o bob oed mewn amrywiaeth o leoliadau, ac mae hi ar hyn o bryd yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Plentyndod Cynnar yn y brifysgol.


Ollie

Ollie

Mae Ollie yn mynychu’r chweched dosbarth ac yn astudio Gwasanaethau Cyhoeddus, Troseddeg a Chwaraeon. Mae ganddo frwdfrydedd diddiwedd at chwaraeon ac yn perfformio’n dda mewn sesiynau.

Mae’n aelod poblogaidd o’r tîm Ceidwaid Chwarae yn arbennig pan mae pêl-droed yn y cwestiwn.


Olly

Oliver

 

Cwblhaodd Olly ysgoloriaeth gyda Chlwb Pêl-droed Caer oedd yn cynnwys lefel 2 a 3 mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae ganddo brofiad o hyfforddi pêl-droed i blant mae’n ei wneud yn wirfoddol mewn cymunedau lleol.

Mae’n angerddol iawn am bêl-droed a throsglwyddo’r sgiliau mae wedi eu dysgu.


Davi

Davi

 

Mae Davi wedi gweithio gyda phlant fel cymorthydd addysgu ac mae ganddo brofiad helaeth o gynnig cefnogaeth un i un yn ogystal â darparu cefnogaeth yn ystod gwyliau.

Mae’n unigolyn hynod frwdfrydig gyda brwdfrydedd gwirioneddol yn eu swydd a thuag at y plant mae’n gweithio gyda nhw.