Datganiad hygyrchedd ar gyfer workfor.denbighshire.gov.uk

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i workfor.denbighshire.gov.uk.

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ddinbych. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • chwyddo’r sgrin hyd at 400% gwaith yn fwy heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet (gwefan allanol) gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn hollol hygyrch:

  • nid yw dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes gan rai elfennau testun ddigon o gyferbyniad lliw
  • nid yw rhai delweddau eicon yn cynnwys testun arall
  • mae rhai elfennau tabl yn cynnwys priodoleddau label hygyrchedd heb eu cynnal
  • mae nodweddion label hygyrchedd ar goll ar rai elfennau tabl
  • mae rhai tablau'n cynnwys celloedd pennawd gwag
  • nid oes gan elfennau bar cynnydd ar dudalennau gwe ceisiadau am swydd enw hygyrch

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Fel arall, gallwch ysgrifennu atom:

Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordio sain neu braille, cysylltwch â ni:

Fel arall, gallwch ysgrifennu atom:

Cyngor Sir Ddinbych,
Blwch Post 62,
Rhuthun,
LL15 9AZ

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Os nad ydych yn gallu gweld ein tudalen "Cysylltu â ni", ffoniwch 01824 706000 am gyfarwyddiadau.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) (gwefan allanol).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 (gwefan allanol), oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth gyda'r rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF

Nid yw dogfennau ‘Pecyn Gwybodaeth’ PDF yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin:

  • Nid oes digon o gyferbyniad lliw yn y testun 'teitl swydd'. Gall hyn ei gwneud yn anodd i rai pobl ganfod y wybodaeth hon. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm). Rydym wedi creu templedi dogfennau hygyrch newydd ar gyfer cyhoeddi pecynnau gwybodaeth swyddi gwag. Y camau nesaf fydd trosglwyddo ein tua 1800 o dempledi swyddi i'r fersiynau hygyrch newydd. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn Haf 2026.
  • Mae teitlau tudalennau ar goll o osodiadau dogfen. Gall hyn ei gwneud yn anodd i rai pobl ganfod y wybodaeth hon. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 2.4.2 Teitl y dudalen. Rydym wedi creu templedi dogfennau hygyrch newydd ar gyfer cyhoeddi pecynnau gwybodaeth swyddi gwag. Y camau nesaf fydd trosglwyddo ein tua 1800 o dempledi swyddi i'r fersiynau hygyrch newydd. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn Haf 2026.
  • Mae tablau yn y ddogfen sydd heb benawdau wedi'u marcio'n gywir. Gall hyn ei gwneud yn anodd i feddalwedd darllen sgrin ddehongli'r wybodaeth hon. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd. Rydym wedi creu templedi dogfennau hygyrch newydd ar gyfer cyhoeddi pecynnau gwybodaeth swyddi gwag. Y camau nesaf fydd trosglwyddo ein tua 1800 o dempledi swyddi i'r fersiynau hygyrch newydd. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn Haf 2026.
  • Nid oes testun amgen gan rai elfennau (er enghraifft, logos). Gall hyn ei gwneud yn anodd i feddalwedd darllen sgrin ddehongli'r wybodaeth hon. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.1.1 Cynnwys Di-destun [Rydym wedi creu templedi dogfen hygyrch newydd ar gyfer cyhoeddi pecynnau gwybodaeth swyddi gwag. Y camau nesaf fydd trosglwyddo ein tua 1800 o dempledi swyddi i'r fersiynau hygyrch newydd. Rydym yn rhagweld y bydd y gwaith hwn wedi’i gwblhau erbyn Haf 2026.

Delweddau eicon

Nid yw rhai delweddau eicon yn cynnwys testun amgen. Gall hyn ei gwneud yn anodd i rai pobl weld a deall y wybodaeth hon. Gall hyn ei gwneud yn anodd i feddalwedd darllen sgrin ddehongli'r wybodaeth hon. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.1.1 Cynnwys Di-destun. Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr meddalwedd a'n nod yw datrys hyn erbyn mis Rhagfyr 2024.

Testun cynghorol

Nid oes gan rai elfennau testun cynghorol ddigon o gyferbyniad lliw. Gall hyn ei gwneud yn anodd i rai pobl ganfod y wybodaeth hon. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm). Byddwn yn diweddaru'r testun lliw coch ymgynghorol gyda digon o gyferbyniad lliw. Ein nod yw trwsio'r mater hwn erbyn Rhagfyr 2024.

ARIA (Cymwysiadau Rhyngrwyd Cyfoethog Hygyrch)

Mae rhai tablau yn cynnwys priodoleddau ARIA anghywir. Gall hyn ei gwneud yn anodd i feddalwedd darllen sgrin ddehongli'r wybodaeth hon ac i rai pobl fewngofnodi a/neu lenwi ffurflen gais ar-lein. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth. Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr meddalwedd a'n nod yw datrys hyn erbyn mis Rhagfyr 2024.

Mae priodoleddau ARIA ar goll o rai tablau. Gall hyn ei gwneud yn anodd i rai pobl weld canlyniadau chwilio am swydd. Gall hyn ei gwneud yn anodd i feddalwedd darllen sgrin ddehongli'r wybodaeth hon ar dudalennau gwe canlyniadau chwilio am swydd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd. Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr meddalwedd a'n nod yw datrys hyn erbyn mis Rhagfyr 2024.

Bar cynnydd cais swydd / mynegai tudalen

Nid yw testun bar cynnydd "Tudalen X o 8" yn hygyrch ac nid yw'n cynnwys enw hygyrch ar hyn o bryd. Gall hyn ei gwneud yn anodd i feddalwedd darllen sgrin wahaniaethu rhwng tudalennau proses ymgeisio am swydd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.1.1 Cynnwys Di-destun. Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr meddalwedd a'n nod yw datrys hyn erbyn mis Rhagfyr 2024.

Bar offer testun-i-leferydd

Ar chwyddo 200% nid yw'r rhan fwyaf o'r opsiynau yn y bar offer testun-i-leferydd, megis y botymau chwarae a stopio, ar gael mwyach. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 1.4.4 Newid Maint Testun. Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys gan ein darparwr meddalwedd testun-i-leferydd erbyn mis Hydref 2024.

Gyda chwyddo 400% neu ar sgrin fach (320x256) nid yw'r rhan fwyaf o'r opsiynau yn y bar offer testun-i-leferydd, fel y botymau chwarae a stopio, ar gael mwyach. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 WCAG 1.4.10 Ail-lifo. Bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys gan ein darparwr meddalwedd testun-i-leferydd erbyn mis Hydref 2024.

Penawdau tabl

Mae rhai penawdau tabl ar y dudalen we 'Fy ngheisiadau' yn cynnwys celloedd pennawd gwag. Mae hyn yn golygu na fydd offer cynorthwyol yn gallu dehongli'r wybodaeth yn y celloedd tabl hyn. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.2 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd. Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr meddalwedd a'n nod yw datrys hyn erbyn mis Rhagfyr 2024.

Baich anghymesur

Nid ydym wedi gwneud unrhyw hawliadau baich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 19 Awst 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 11 Hydref 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 7 Awst 2024 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA.

Cynhaliwyd y prawf gan Gyngor Sir Ddinbych. Profwyd y tudalennau gwe canlynol gan ddefnyddio cyfuniad o offer profi awtomataidd ac asesiad â llaw gan ein tîm gwefan.

  • Chwilio am Swydd
  • Canlyniadau chwilio am swydd
  • Proffil Swydd
    • Anfon at ffrind
    • Gwneud cais: Crynodeb o’r Cais
    • Gwneud cais: Manylion Personol
    • Gwneud cais: Addysg, Hyfforddiant ac Aelodaeth
    • Gwneud cais: Gwaith
    • Gwneud cais: Datganiad Ategol
    • Gwneud cais: Gwybodaeth
    • Gwneud cais: Geirdaon
    • Gwneud cais: Trosglwyddo gwybodaeth sensitif
    • Gwneud cais: Hysbysiad Preifatrwydd i Ymgeiswyr
    • Gwneud cais: Pecyn Gwybodaeth (dogfen PDF)
  • Mewngofnodi Defnyddiwr Sy’n Bodoli Eisoes
  • Cofrestru defnyddiwr newydd
  • Wedi anghofio cyfrinair
  • Fy ngheisiadau
  • Fy Mhroffil